Yr Eisteddfod 'angen rhagor o arian'

  • 7 Awst 2013
Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod (chw i'r dde): Sian Eirian; Eirlys Pritchard Jones; John Pritchard; Roy Noble; Nia Parry; Sioned Wyn Roberts; Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC
Bu'r tasglu yn cynnal sesiwn holi ac ateb ar y Maes brynhawn Mercher

Mae cadeirydd tasglu, sydd wedi'i sefydlu i ystyried sut i foderneiddio'r Eisteddfod, wedi awgrymu bod yn rhaid i'r Brifwyl gael rhagor o arian os am gyflwyno newidiadau.

Awgrymodd yn gryf hefyd na fyddai'r grŵp yn argymell cynnal yr ŵyl ar un safle parhaol.

Roedd Roy Noble yn siarad ar ôl sesiwn a holi'r grŵp ar y Maes ddydd Mercher.

Meddai: "Ry'n ni wedi ystyried y ffaith, mae Llywodraeth Cymru wedi cadw'r un cyllid am flynyddoedd. Felly mae'r gwerth wedi mynd i lawr.

"So ni'n credu fydde ni'n dodi hynny 'mlaen - un peth dyle'r llywodraeth ystyried yw fod hi'n hen bryd rhoi rhagor o gyllid."

Mae'r grŵp wedi cwrdd chwe gwaith ers cael ei sefydlu fis Hydref y llynedd, ac mae 'na un cyfarfod yn weddill fis Medi, cyn i'r tasglu gyflwyno eu hargymhellion i'r Prif Weinidog Carwyn Jones.

300 o ymatebion

Pwysleisiodd Mr Noble bod yna gyfle'n dal i fod i bobl gyfrannu eu barn at y drafodaeth.

"Ry'n ni wedi derbyn tua 300 o ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus," meddai.

Dywedodd bod y rhan fwya' o'r adborth yn ymwneud â lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'r tasglu wedi bod yn ystyried gwahanol opsiynau, gan gynnwys cael model o ddau safle parhaol a dau safle symudol, yn ogystal â'r posibilrwydd o lwyfannu'r Eisteddfod ar un safle parhaol.

Eglurodd nad oedd modd i'r grŵp ymhelaethu ar eu casgliadau nes byddan nhw'n cyflwyno eu hadroddiad i'r prif weinidog yn yr hydref, ond ychwanegodd:

"Fydden i ddim yn dodi bet bod yr Eisteddfod am fod yn un lle."

Cyfeiriodd at y ffaith ei bod yn "llawer mwy anodd nawr i'r Eisteddfod ddod o hyd i safle newydd o hyd", oedd yn golygu eu bod yn mynd yn ôl i'r un safleoedd.

Arbenigwyr

Dywedodd fod y grŵp wedi bod yn cymharu'r Brifwyl gyda gwyliau eraill, megis y Sioe Frenhinol, ond bod "honno yn anifail hollol wahanol".

Mae'r grŵp wedi gofyn i arbenigwyr economaidd ystyried effaith yr Eisteddfod ar ardaloedd mae hi'n ymweld â nhw.

Yn ogystal, maent wedi edrych ar ddau adroddiad ar y gwaddol mewn dwy ardal - Llanelli a Chaerdydd. Dywedodd Mr Noble fod yr effaith ar ardal drefol, fel Caerdydd, yn fwy yn economaidd.

"Ond mae angen bod yn fwy cywrain o ran mesur effaith economaidd," meddai, gan egluro bod y ffaith bod pethau'n costio mwy mewn ardaloedd trefol, er enghraifft, yn ychwanegu at hynny.

"Mae'n ymddangos fod yr Eisteddfod yn dod â rhyw £3 i 4 miliwn yn nhermau gross value added.

"Mae'r effaith yn ddiwyllianol yn reit gyson ym mhobman," meddai.