Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ffrae wleidyddol am gostau byw

7 Awst 2013 Diweddarwyd 09:05 BST

Mae'r blaid Lafur yn dadlau bod gweithwyr Cymru'n ennill llai nawr nag oedden nhw adeg yr etholiad cyffredinol diwethaf - 8% yn llai ar gyfartaledd. Effaith chwyddiant ar gostau byw sydd i gyfri medd y blaid - ac maen nhw'n beio'r Ceidwadwyr. Ond mae llywodraeth David Cameron yn pwysleisio bod miliwn o swyddi wedi eu creu ym Mhrydain yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Adroddiad Ellis Roberts.