Cofio'r 'athrylith' Donald Davies

Donald Davies
Roedd Donald Davies yn cael ei ystyried fel un o'r dynion mwyaf galluog ym Mhrydain

Mae plac wedi ei ddadorchuddio yn Llyfrgell Treorci er cof am ddyn oedd yn cael ei ddisgrifio fel "un o ddau ddyn mwyaf disglair ei gyfnod".

Fe wnaeth Donald Watts Davies o Dreorci waith arloesol gyda systemau cyfrifiadurol - gwaith, yn ôl rhai, wnaeth arwain at sefydlu'r we.

Roedd Mr Davies yn ffrindiau gyda'r enwog Alan Turing, ac fe ddylai gael ei ystyried ar yr un lefel ag ef yn ôl academydd sydd wedi ysgrifennu papur ar y pwnc.

Dywedodd dirprwy faer Treorci, y cynghorydd John Watts, ei fod yn addas bod Mr Davies yn derbyn cydnabyddiaeth leol am waith fuodd o fudd i'r blaned gyfan.

'Athrylith'

"Ganwyd Mr Davies yn Nhreorci, ac wedi marwolaeth ei dad fe symudodd gyda'i fam i Portsmouth," meddai Mr Trevor Harris, uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant.

Yn fab i löwr, daeth hi'n amlwg yn fuan iawn bod Mr Davies yn berchen ar ddeallusrwydd aruthrol.

"Tra roedd yn byw yno, roedd o a'i chwaer Marion yn cael eu hadnabod fel yr 'efeilliaid athrylithgar'.

"Roedd yn boblogaidd iawn yn Portsmouth - wedi iddo gael gradd gyntaf ym Mhrifysgol UCL fe gafodd ei ysgol ddiwrnod o wyliau i ddathlu."

Wedi iddo ennill ei radd gyntaf mewn ffiseg yn 1943, doedd dim llawer o amser nes iddo ennill ei ail - mewn mathemateg y tro hwn, yn 1947.

Fe aeth wedi hynny i weithio gydag Alan Turing yn y Labordy Ffiseg Genedlaethol, gan weithio ar un o'r cyfrifiaduron cyntaf erioed i gael ei adeiladu.

Yn ôl Mr Harris, Donald Davies oedd yr unig un erioed i gywiro gwallau yng ngwaith Alan Turing.

Plac
Roedd efaill Donald, Marion, yn bresenol yn ystod y dadorchudiad

'Disglair'

"Pan roeddent yn gweithio gyda'i gilydd roeddent yn cael eu hadnabod fel y ddau ddyn mwyaf disglair yn y Deyrnas Unedig ar y pryd," meddai Mr Harris.

"Roedd pobl yn arfer dweud, wrth i Davies a Turing gerdded i mewn i'r labordy, bod hanner gallu meddyliol y wlad newydd gerdded fewn i'r ystafell."

Mewn papur academaidd, mae Mr Harris wedi dadlau y dylai Donald Davies, wnaeth farw yn 75 oed yn 2000, gael ei ystyried fel "tad y we".

Fe gafodd Mr Davies syniad nôl yn y 60au o rannu adnoddau cyfrifiadurol drwy gyfrwng teleffonau gan ddefnyddio dull o'r enw 'switsio pecynnau'.

Yn ôl Mr Harris, ni fyddai systemau cyfrifiadurol rydym mor gyfarwydd â nhw heddiw yn bodoli heb y datblygiad hwnnw.

'Un cam ar y blaen'

Derbyniodd Mr Davies wobr y British Computer Society Award yn 1974 am ei ymdrechion, cafodd CBE yn 1983 ac mae wedi ei dderbyn i Oriel Enwogion y We - ond dyw gwir bwysigrwydd ei waith dal ddim yn cael ei werthfawrogi yn ôl Mr Harris.

"Roedd wastad yn edrych tuag at y dyfodol, wastad un cam ar y blaen o'i gymharu â phobl eraill."

Wrth ddadorchuddio'r plac yn Llyfrgell Treorci dywedodd dirprwy faer y Rhondda, y cynghorydd John Watts: "Roedd hi'n bleser cael croesawu cymaint o deulu Mr Davies i'w dref enedigol o Dreorci - rhai ohonynt wedi dod yn llythrennol o ochr arall y byd i ddathlu'r digwyddiad."

"Yn barod rydym yn cymryd technoleg fodern a'r ffyrdd newydd o gyfathrebu'n ganiataol ac eto 20 mlynedd yn ôl rhywbeth oedd yn cael ei ddefnyddio gan fusnesau ac academyddion oedd y we...

"Rhaid diolch i bobl fel Mr Davies am newid ein bywydau."

Dywedodd Ian Titherington, gor-nai Mr Davies, fod gwers amserol i'w ddysgu o lwyddiant ei hen ewythr.

"Mae gwers yma - oni fyddai'n hyfryd os gallwn ni, yn y dyfodol, ddatblygu'r syniadau hyn yn ein prifysgolion yng Nghymru yn hytrach na gorfod dibynnu ar athrylith yn teithio i ochr arall y byd i ddatblygu ei syniadau?"