Dyfodol: 'Dim grant am astudio yn Lloegr'

Dyfodol
Mae cadeirydd Dyfodol Heini Gruffudd (chwith) yn credu bod angen edrych eto ar y polisi

Mae mudiad iaith yn galw am ddileu'r grant sydd yn cael ei rhoi i fyfyrwyr o Gymru sydd yn dewis astudio tu allan i'r wlad a chynnig benthyciad yn lle hynny.

Yn ôl Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol yr Iaith, dylai Llywodraeth Cymru ailystyried y polisi o dalu am unrhyw ffioedd myfyrwyr sydd dros £3,500.

Yn ddiweddar, daeth i'r amlwg bod Llywodraeth Cymru'n rhoi £15m i ddim ond pum prifysgol Saesnig yn sgil y polisi.

Mae'r llywodraeth wedi amddiffyn y system bresenol, gan ddweud fod mwy o arian yn dod mewn i Gymru na sy'n mynd allan.

Benthyciad

Ar hyn o bryd £3,500 yw'r uchafswm mae myfyrwyr Cymru yn gorfod talu mewn ffioedd dysgu i fynd i brifysgolion o fewn y Deyrnas Unedig er bod nifer o brifysgolion yn codi £9,000 y flwyddyn mewn ffioedd.

Llywodraeth Cymru sydd yn talu'r gwahaniaeth.

Ond mae Heini Gruffudd yn dweud y dylai'r polisi hwn ddod i ben ac y dylid cynnig benthyciad yn ei le: "'Dw i yn credu mai ni yw'r unig fudiad iaith i dynnu sylw at hyn. Hynny yw mae arian difrifol yn cael ei roi ar hyn o bryd i gefnogi myfyrwyr Cymru sydd yn astudio yn Lloegr.

"Dyw'r Alban ddim yn gwneud hyn. Dyw Gogledd Iwerddon ddim yn gwneud hyn. Pam yn y byd bod angen i ni wneud hyn?

"Yn ddigon diddorol yn y mis diwethaf mae prifathro Coleg Caerdydd wedi cytuno â ni a chodi'r union 'run pwynt. Gallai'r arian gael ei wario ar ddatblygu addysg uwch yng Nghymru."

Er fod Dyfodol eisiau annog mwy o fyfyrwyr i aros yng Nghymru i astudio nid ei bwriad yw atal myfyrwyr rhag mynd dros y dŵr wrth gynnig y newid polisi:

"Gallan nhw fynd i brifysgolion Lloegr ar yr un telerau myfyrwyr yn Lloegr, sef talu yn llawn. Does dim byd yn gwahardd hynny. Os oes 'na brifysgolion gwell yn Lloegr mater i ni yw cryfhau prifysgolion yng Nghymru i gystadlu."

Blwyddyn gyntaf

Mae hi bellach bron yn flwyddyn ers i'r mudiad gychwyn ar eu gwaith ac roeddent yn cynnal eu cyfarfod blynyddol cyntaf ar faes yr eisteddfod ddydd Mawrth. Cynllunio oedd prif thema'r cyfarfod gyda'r cyfreithiwr Emyr Lewis yn dweud bod angen i faterion yr iaith Gymraeg fod yn amlwg mewn deddf gynllunio newydd.

Erbyn hyn mae gan y mudiad dros 250 o aelodau yn ogystal ag unigolion yn gweithio rhan amser ar ei rhan.

Mae hynny yn llwyddiant meddai'r cadeirydd: "Pan chi yn meddwl am fudiadau newydd a bod mudiad newydd o fewn llai na blwyddyn wedi crynhoi digon o aelodau i gyflogi dau swyddog, dw i yn credu bod e yn argoeli yn arbennig o dda, a gan fod pobl ddim yn gwybod mewn gwirionedd beth fyddai hyd a lled dylanwad y corff ac wrth weld dylanwad, mi fydd yn cryfhau."

Mae Mr Gruffudd yn dweud eu bod nhw wedi llwyddo i gael effaith ar faterion yn ymwneud â'r iaith gan gyfeirio at eu hawgrym i lunio un canolfan i gynnal darpariaeth dysgu Cymraeg ail iaith.

Cafodd y syniad hwnnw ei gymeradwyo gan y pwyllgor sydd wedi bod yn edrych ar y maes ar ran y llywodraeth yn ddiweddar.

Treblu aelodaeth

Yn eu dogfen sydd yn edrych yn ôl ar y flwyddyn gychwynnol mae'r mudiad yn dweud eu bod eisiau cynyddu'r aelodaeth.

"'Dw i yn credu i gael dau neu dri swyddog amser llawn mae eisiau treblu (yr aelodaeth). Gallwn ni fynd ymlaen fel y'n ni wrth gwrs yn ddigon da ond yn ni wedi gweld gwahaniaeth yn y mis neu ddau ddiwethaf ers dechrau penodi swyddogion, bod y gwaith yn bwrw ymlaen yn llawer iawn mwy effeithiol," meddai Heini Gruffudd.

Bwriad Dyfodol i'r Iaith yn y misoedd nesaf yw datblygu cynllun iaith cenedlaethol gyda'r pwyslais yn cael ei roi ar ddefnyddio'r Gymraeg yn y cartref a'r gymuned. Yn yr hanner can mlynedd diwethaf sicrhau statws i'r iaith yw'r flaenoriaeth wedi bod meddai o ac mae'n bryd rŵan i edrych ar ddefnydd yr iaith bob dydd ymysg pobl.