'Argyfwng' yn y cyfryngau Cymraeg?

  • 6 Awst 2013
Trafodaeth 'Y Cyfryngau Cymraeg' (chw i'r dde): Rhodri Williams; Simon Brooks; Betsan Powys; Angharad Mair; Dafydd Rhys
Roedd Pabell y Cymdeithasau yn llawn ar gyfer y drafodaeth ddydd Mawrth

A ddylid canolbwyntio ar adennill cynulleidfaoedd craidd y cyfryngau Cymraeg, neu ar ymestyn allan at gynulleidfa newydd?

Dyna un o'r prif bynciau trafod mewn trafodaeth ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth.

Yn 'Y Cyfryngau Cyfrwng Cymraeg - rheoli dirywiad?', trafodwyd hefyd a oedd y ffordd bresennol o gasglu ffigurau defnyddwyr yn fodd effeithiol a pherthnasol o fesur llwyddiant bellach, yn ogystal â rôl gwasanaethau Cymraeg yn amddiffyn yr iaith.

Roedd y digwyddiad wedi'i drefnu gan y Sefydliad Materion Cymreig.

Y pedwar ar y panel oedd Dafydd Rhys o S4C, Betsan Powys - golygydd rhaglenni Radio Cymru - Angharad Mair o gwmni teledu Tinopolis, a'r academydd a'r sylwebydd Simon Brooks, dan gadeiryddiaeth Rhodri Williams, Ofcom.

'Argyfwng'

Wrth gyfeirio at gynulleidfaoedd, dywedodd Mr Brooks ei fod yn "nerfus" am y "pwyslais ar apelio cymaint at y di-Gymraeg" oedd yn amlwg mewn rhai rhannau o'r cyfryngau Cymraeg.

Dywedodd bod yna rai pobl na fyddai fyth modd cyrraedd atynt, ac mai "problem gymdeithasol" oedd honno. Ychwanegodd ei fod yn poeni bod pawb yn dilyn yr un trywydd.

"Beth os, mewn pum mlynedd, bod y strategaeth newydd o chwilio am 'gynulleidfa newydd' ddim wedi llwyddo a phawb wedi mynd amdani?" gofynnodd. "Byddai hynny yn argyfwng."

Yn ôl Betsan Powys, mae'n rhaid cydnabod bod "carfan o'r rhai sy'n gwrando ar Radio Cymru ar hyn o bryd yn debygol o grebachu".

"Dwi'n meddwl bod angen bod yn ofalus wrth geisio siarad â chynulleidfa 'da ni wedi'i cholli," ychwanegodd.

"Y bobl sy' bia'r cyfrwng oedd geiriau Hywel Gwynfryn - efallai bod 'y bobl' wedi newid ond mae'r neges yn dal yn wir."

Dywedodd Dafydd Rhys ei bod yn bwysig "gwarchod cynulleidfa deyrngar a thriw" S4C. "Y cam nesa' i ni," meddai, "yw tynnu mwy i mewn at be' 'da ni'n cynnig. Fel y dywedodd Ian Jones, mae'n bwysig bod S4C ar sawl platfform. Mae pobl wedi newid y ffordd maen nhw'n gwylio."

Ar-lein

Aeth Simon Brooks ymlaen i gyfeirio at y cyfryngau cymdeithasol a digidol, gan groesawu buddsoddiadau diweddar yn y meysydd hyn.

"Serch hynny," meddai, "mae 'na un shifft eitha' arwyddocaol o ran datblygiad o fewn y cyfryngau newydd.

"Heb unrhyw drafodaeth mae llawer o'r gwasanaethau hyn yn cael eu cyflwyno'n ddwyieithog. Dwi'n credu bod hynny'n gamgymeriad - mae angen trafodaeth am y peth.

"Byddai'n well o lawer petai hyn yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg a'n bod ni'n defnyddio dulliau hysbysebu dwyieithog."

Yn ateb i hyn, dywedodd Dafydd Rhys mai bwriad S4C oedd "tynnu pobl llai hyderus i mewn aton ni".

Dywedodd Betsan Powys: "Mae 'na lawer o fywiogrwydd a chreadigrwydd o fewn yr hyn sy'n digwydd ar-lein ond a ydy pobl yn gallu dod o hyd i'r pethau hyn?"

Eglurodd mai bwriad gwasanaeth newydd ar-lein BBC Cymru, Cymru Fyw, oedd "tynnu popeth gorau sy'n digwydd yn y Gymraeg mewn diwrnod at ei gilydd - rhyw fath o borth."

Mesur llwyddiant

Mater arall a gafodd gryn sylw ddydd Llun oedd y modd presennol o fesur nifer defnyddwyr y gwasanaethau cyfryngol Cymraeg. Fe ddisgrifiodd Angharad Mair y system fel un "anacronistig".

"Mae'r sampl yn ystadegol mor fach", meddai, gan ychwanegu ei bod yn "beryglus iawn" ein bod yn rhoi cymaint o bwyslais ar y ffigurau.

Cyfeiriodd Dafydd Rhys at y ffaith nad oedd defnyddwyr eu gwasanaethau plant na dysgwyr yn cael eu cynnwys yn eu ffigurau nhw.

"Dyw ffigurau ddim yr unig ffordd i fesur llwyddiant... mae angen ystod eang iawn o fesur ein llwyddiant," meddai.

Ychwanegodd Angharad Mair fod 'na lawer gormod o sylw'n cael ei roi i'r ffigurau a bod gormod o bobl yn bod yn negyddol o'u herwydd.

Gorffennodd ar nodyn fwy cadarnhaol: "Mae angen i ni fod yn fwy positif am ein hunain, mae pethau fel S4C a Radio Cymru'n berlau sydd angen eu gwarchod."