Gwefan Twitter
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Yr Awr Gymraeg: O nerth i nerth

6 Awst 2013 Diweddarwyd 11:08 BST

Ers rhai misoedd mae ymgyrch ar wefan Twitter wedi galluogi perchnogion busnes Cymraeg eu hiaith o bob rhan o Gymru i ddod i nabod ei gilydd. Am awr bob nos Fercher - rhwng wyth a naw o'r gloch - mi welwch chi lu o negeseuon ar Twitter yn cynnwys hashnod ymgyrch Yr Awr Gymraeg. Nos Lun roedd 'na gyfle i rai o'r bobol fusnes 'ma gyfarfod â'i gilydd ar faes yr Eisteddfod - mi fydd sesiwn arall eto nos Iau - ond yn y cyfarfod cyntaf nos Lun mi glywodd Rhian Price gan un o sylfaenwyr yr ymgyrch Huw Marshall pa mor boblogaidd ydi'r Awr Gymraeg.