Panel ar raglen Newyddion yn trafod dyfodol Eisteddfod

  • 6 Awst 2013
Panel trafod
Image caption (O'r chwith i'r dde) Dr Simon Brooks, Beryl Vaughan, Eilir Owain Griffiths a R. Alun Evans

Fe ddylai'r Eisteddfod barhau i symud o ardal i ardal bob blwyddyn, meddai panel arbennig ar raglen Newyddion.

Daw'r sylwadau wrth i'r grŵp gorchwyl i ddyfodol yr Eisteddfod, sy'n cael ei gadeirio gan Roy Noble, baratoi i adrodd yn ôl.

Ond dywedodd un aelod ei fod yn poeni am sut y dylai'r Eisteddfod gael ei hariannu yn y dyfodol.

Yn ôl Eilir Owain Griffiths, Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen, dylai'r Eisteddfod wneud yr hyn yr oedd llawer o gyrff cyhoeddus yn gorfod ei wneud yn ddiweddar, darganfod ffyrdd o arbed arian.

'Cost effeithiol'

"Ffordd i edrych ar y peth yw mai hyn a hyn o arian yn y pot sydd am fod.

"Felly sut y gallwn ni wneud y Steddfod yn fwy cost effeithiol?" meddai.

"Mae angen edrych ar wahanol agweddau er mwyn gweld lle gall arbedion gael eu gwneud."

Dywedodd Dr Simon Brooks mai buddsoddi mwy yn yr Eisteddfod fyddai'r ateb, gan ystyried canlyniadau siomedig Cyfrifiad 2011.

'Buddsoddi'

"Mae'r amser wedi dŵad yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2011 i fuddsoddi mewn diwylliant Cymraeg, dyna'r gwir amdani.

"Yr Eisteddfod Genedlaethol yw flagship y diwylliant Cymraeg a ddylai hi ddim bod yn crafu byw, yn ofni gweinidogion unigol o flwyddyn i flwyddyn, dyla' fod ganddi gyllid sefydlog i'w galluogi i symud o fan i fan ac fel gŵyl Gymraeg hefyd."

Ond dywedodd nad oedd yn credu y dylai'r llywodraeth ymyrryd yn y ffordd yr oedd yr Eisteddfod yn cael ei rhedeg.

"Na dydw i ddim [yn croesawu'r tasglu]. Job y llywodraeth ydi llywodraethu pethau maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw - 'dylsa cyrff annibynnol fel yr Eisteddfod a'r BBC a beth bynnag arall ddim fod yn ddibynnol ar y llywodraeth yn y pendraw."

'Symud'

Mi fyddai Eisteddfod sydd ddim yn symud "fel Royal Welsh heb anifeiliaid," meddai Dr Brooks.

"Symud mae Eisteddfod wedi ei wneud erioed - dyna be' ydy Eisteddfod," meddai Dr Brooks.

"Rhaid iddi symud a rhaid i ni ei chadw hi'n Gymraeg. 'Dw i ddim yn meddwl gawn ni gyfaddawdu ar hynny o gwbwl."

Dywedodd y Dr R Alun Evans, aelod o Lys yr Eisteddfod, ei fod yn cytuno.

"Mae'n rhaid symud, mae'n rhaid iddi adael ei hôl a'i lliw ar lefydd fel Blaenau Gwent, Meifod, pentrefi a dinasoedd, trefi Cymru ... gadewch iddi gostio ffortiwn.

"Mae rhywbeth, yndoes, o ddiwylliant ein gwlad ni'n cael ei adael ei ôl - corau, partïon, cwmnïau drama, cylchoedd cinio ac yn y blaen.

"Be' ydy'r gwaddol? Dyna'r cwestiwn."

Rhy ddrud?

Image caption Mae Dr Brooks yn credu bod angen buddsoddi mwy yn yr Eisteddfod

Dywedodd nad oedd angen newid y drefn bresennol oherwydd, er enghraifft, llwyddiant Sir Ddinbych yn codi arian.

"Mae yna 40 o bwyllgorau apêl wedi bod yn Ninbych wedi casglu £330,000 yn gneud hynny wedi mynd i dafarnau, capeli neuaddau pentre', a nhw yn eu tro wedi codi incwm i'r tafarnwyr capeli neuaddau. 'Dach chi'n creu incwm i greu elw."

Dywedodd Beryl Vaughan ei bod yn yn cytuno.

"Mae yna arian, 'dan ni'n gwybod ei fod o'n anodd - mae yna arian a tra mae cynghorau Cymru'n rhoi'r arian rŵan mae eisiau dal gario mlaen a chael noddwyr hefyd - marchnata falle fwy a hybu pobl dros y ffin i gymryd diddordeb."

Mwynhau

Yr hyn sy'n hollbwysig, yn ei barn hi, yw bod pobl yn mwynhau eu profiad yn yr Eisteddfod gan mai dyma yw'r ffordd o sicrhau bod mwy o bobl yn ymweld.

"Mae yna deulu wedi dod drosodd heddiw o'r Swistir," meddai. "Wedi cyrraedd yn Lerpwl bora 'ma, wedi edrych be sy' ymlaen yng Nghymru, wedi gweld bod 'steddfod yma, wedi bod yma, wedi bod yn bwyta yma a rŵan yn y noson lawen ac wedi cael modd i fyw.

"Maen nhw wedi canmol y cyfieithu yma ac maen nhw'n dod yn ôl yfory."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.