Ymgyrch atal smygu: Cyfrifiadur yn heneiddio cyflwynwyr

  • 3 Awst 2013
Lois o Stwnsh
Mae'r lluniau yn dangos y gwahaniaeth yn wyneb Lois pan yn 70 oed, os y byddai hi'n ysmygu (chw.) neu ddim (dde)

Mae ymgyrch gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar faes yr Eisteddfod yn tynnu sylw at effeithiau smygu ar wynebau pobl.

Mae meddalwedd arbennig wedi ei ddefnyddio i ddangos y gwahaniaeth rhwng sut y byddai cyflwynwyr gwasanaeth plant a phobl ifanc S4C, Stwnsh, yn edrych pan yn 70 oed pe baen nhw'n smygu a phe baen nhw ddim.

Dywedodd Lois: "Mae gweld y lluniau wedi gneud i fi ddim eisiau smocio fwy nag o'n i'n barod."

"Dwi'n wrth-smygu be' bynnag, wedi cael y neges yn gry' pan o'n i'n tyfu fyny, ond mae 'di dychryn fi sut fyswn i'n edrych."

Roedd Owain yn cytuno: "Ma' rhywun syth bin yn gweld y gwahaniaeth - mae'n ategu'r ffaith nad ydw i eisiau 'smygu."

Dywedodd Delyth Jones, Prif Swyddog Iechyd Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru:

''Mae smygu yn medru neud i chi edrych yn hŷn gan ei fod yn arafu cynhyrchiad colagen ac yn rhoi crychau i chi.

"Mae croen rhai nad ydynt yn smygu yn cael mwy o faeth gan gynnwys ocsigen.

"Yn aml bydd gan groen rhywun sy'n smygu wedd felen a llinellau amlwg.

Lois o Stwnsh
Lois fel yr ydym wedi arfer ei gweld hi

"Mae'n amlwg wrth y lluniau a gynhyrchwyd gan y cyfrifiadur y bydd Lois, Anni, Tudur and Owain yn medru parhau i edrych yn ifanc yn 70 wrth beidio â smygu.''

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a Dim Smygu Cymru yn rhoi cymorth ymarferol i bobl sydd am roi'r gorau i smygu.