Profiad ffermwr o osod tir i'r Brifwyl

Safle'r Eisteddfod yn Ninbych Image copyright Eisteddfod
Image caption Mae'r Brifwyl yn cael ei chynnal ar dir Fferm Dilwyn Evans ger Dinbych rhwng Awst 2-10

Wrth i Brifwyl 2013 baratoi i agor ei drysau, mae un ffermwr yn Sir Ddinbych yn gobeithio am brofiad hapusach nag a gafodd adeg Eisteddfod Dinbych yn 2001.

Y ffermwr llaeth Dilwyn Evans sydd yn berchen ar y caeau a gafodd eu defnyddio adeg y Brifwyl honno, ac sydd yn gartre' eto i Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau yn 2013.

Yn 2001 roedd clwy'r traed a'r genau ar ei anterth, gan effeithio ar ffermwyr ar draws y wlad.

Fe gafwyd trafodaethau ar y pryd i benderfynu a fyddai'r Eisteddfod yn cael ei chynnal o gwbl.

Meddai Mr Evans: "Roedd y milfeddyg lleol a milfeddyg yng Nghaernarfon, roedden nhw i gyd yn siarad efo'i gilydd ac mi wnaethon nhw benderfynu mynd â fo yn ei flaen yn y diwedd. Roedd pawb yn cytuno."

Mae'n dweud bod yr afiechyd, a olygodd bod 350,000 o anifeiliaid wedi gorfod cael eu lladd, wedi bod yn "dipyn o gwmwl dros yr holl beth".

Wnaeth y clwy ddim effeithio arno fo yn uniongyrchol ond roedd o yn teimlo'n ansicr bod yr Eisteddfod yn dod i'r ardal.

"Roedden ni'n poeni ond roedden ni'n meddwl os oedd y milfeddyg yn hapus, roedden ni'n hapus ynde," meddai.

"Nhw oedd yn gwybod, roedden nhw'n gwybod yn well na ni mewn ffordd.

"Ond mi roedden ni yn pryderu. Doedd 'na ddim stoc na'm byd ar y caeau cynt nac ar ôl am yn hir. Dyna'r unig beth oeddan ni'n gorfod gwneud."

'Cyfleustra traffig'

Dros ddwy flynedd yn ôl fe ddechreuodd trefnwyr y Brifwyl chwilio am dir ar gyfer Prifwyl Sir Ddinbych eleni.

Fe fynegodd Dilwyn Evans a ffermwyr eraill ddiddordeb ac mi benderfynwyd mynd yn ôl i'r safle a ddefnyddiwyd o'r blaen, sydd rhyw ddwy filltir y tu allan i dre' Dinbych.

"Cyfleustra traffig" ydy'r prif feini prawf, meddai Mr Evans, ac mae o wedi gorfod gwneud ychydig o waith paratoi cyn i'r swyddogion yn eu siacedi melyn gyrraedd, gan gynnwys gwneud yn siŵr bod y caeau mewn "safon go lew".

Meddai: "Mae 'na lot fawr o gostau i baratoi'r safle, i gael o fel y mae o mewn ffordd. 'Dan ni wedi gorfod cael tir ychwanegol, iawndal mewn ffordd i dyfu cnydau yn ei le."

Dydy o ddim yn rhagweld y bydd ei gaeau yn llynnoedd erbyn diwedd yr wythnos, gan ddweud ei fod yn gobeithio y bydd y tywydd sych diweddar yn gwneud gwahaniaeth.

"Maen nhw wedi cael tywydd da i baratoi felly mae'r ddaear yn sych oddi tanodd. Felly os neith hi lawio, 'chydig bach ar yr wyneb fydd o 'dw i'n meddwl. 'Dw i'n gobeithio beth bynnag!"

Gyda dros 600 acer o dir i'w ffermio, dydy Dilwyn Evans ddim yn ddyn segur. Ond mae'n gobeithio galw draw i'r Maes rhyw ben yn ystod yr wythnos. Mi fydd mynd o gwmpas y Maes yn brofiad "reit od", meddai.

"Dydy o ddim yn edrych yr un lle ar y pryd. 'Dach chi ddim yn meddwl mai dyna ydy o. Mi rydw i'n tynnu dipyn o luniau i gael edrych yn ôl ar y lle. Mi fydd yn reit ddiddorol 'dw i'n siwr."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.