Yr Archdderwydd Christine yn torri tir newydd

Y Prifardd Christine
Mae'r Archdderwydd yn awyddus i weld aelodau'r Orsedd yn dod o gefndiroedd ethnig gwahanol

Un peth y bydd yn rhaid i Eisteddfodwyr gofio peidio â'i wneud yr wythnos hon ydy galw'r archdderwydd newydd yn "archdderwyddes".

Er mai hi yw'r ddynes gynta' erioed i arwain yr Orsedd, mae Christine James wedi dweud nad yw hi am i bobl dynnu sylw at ei benyweidd-dra wrth gyfeirio ati.

Un peth sy'n sicr, fe fydd hi'n wythnos brysur a llawn profiadau newydd i'r Archdderwydd - ond fe fydd yn brofiad newydd i Orsedd y Beirdd hefyd.

Nid yn unig ydy hi'r ferch gynta', ond Y Prifardd Christine yw'r Archdderwydd cynta' sydd wedi dysgu Cymraeg.

Mae'n olynu T.James Jones - Jim Parc Nest - fu'n Archdderwydd rhwng 2009 a 2013.

Roedd Dr James ynghanol ei pharatoadau ar gyfer ei hymweliad â Dyffryn Clwyd pan siaradais â hi, gan ddweud ei bod yn "edrych ymlaen yn arw at wythnos brysur - gan obeithio y bydd yn wythnos lwyddiannus o ran gwobrwyo yn y seremonïau, wrth gwrs."

"Rwy'n siŵr mai dyna sy'n rhoi'r wefr fwya' i unrhyw Archdderwydd," meddai, "sef cael Cadeirio, Coroni a Medalu".

Cafodd ei hurddo fis Mehefin, yn ystod seremoni gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 yng Nghaerfyrddin.

Roedd y profiad o annerch o'r Maen Llog am y tro cynta' yn "wefreiddiol" meddai, ac yn fodd o "dorri'r garw" cyn yr Eisteddfod yn Sir Ddinbych.

"Chi'n gadael rhan ohonoch ar ôl yn yr ystafell wisgo - chi'n ymwisgo yn llythrennol yn y swydd. Ond rwy'n gobeithio, fel y gwnaeth Jim Parc Nest, y bydd fy mhersonoliaeth yn dod trwyddo er y wisg swyddogol ac mae'r Archdderwydd Christine fydda' i, nid dim ond yr Archdderwydd".

'Lwcus'

Mae'n creu hanes wrth fod y ferch gynta' i gamu i'r wisg, wrth gwrs - ond a yw hi'n synnu nad oes Archdderwydd benywaidd wedi bod cyn hyn?

"Rwy'n credu fod 'synnu' yn air rhy gry' - ond mae'r datblygiad yn adlewyrchu'n cyfnod ni'n sicr. Mae mwy o ferched wedi bod yn ennill y prif wobrau felly mae'r pwll y gallwch chi ddewis ohono wedi newid o ran demograffeg.

"Fi oedd y person lwcus rwy'n credu - ro'n i yn y lle iawn ar yr amser iawn fel petai. Ond mae yn bryd erbyn hyn ac mae'n dangos fod yr Orsedd yn symud gyda'r oes.

"Mae hefyd yn ymateb i'r datblygiadau yn y gymdeithas o'n cwmpas - mae mwy o ferched mewn swyddi blaengar mewn pob mathau o feysydd erbyn hyn."

Mae'r Archdderwydd Christine yn torri cwys newydd o ran ei chefndir hefyd. Cafodd ei magu ar aelwyd uniaith Saesneg yn Nhonypandy, Cwm Rhondda. Fe ddysgodd Gymraeg fel ail iaith yn Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth, cyn mynd ymlaen i ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Erbyn hyn mae hi'n uwch-ddarlithydd yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.

'Ddim o'r cefndir traddodiadol'

"Fi yw'r person cynta' sydd wedi dysgu Cymraeg... Mae fy nghefndir i'n eitha' gwahanol - dwi ddim yn dod o'r cefndir traddodiadol yn ieithyddol nac yn gymdeithasol. Rwy'n credu taw fi yw'r Archdderwydd cynta' i gael fy ngeni a'n magu'n gyfan gwbl yn y Cymoedd.

"Mae unrhyw gorff yn gorfod newid, symud, addasu neu adlewyrchu'r oes - neu gladdu eu hunain. Os nad y'ch chi'n newid, ry'ch chi'n sicr o farw. Mae'r ffaith bod 'na Archdderwydd o gefndir eitha' gwahanol yn denu sylw. Dwi ddim yn berson sy'n chwennych sylw - ond rwy'n falch os ydw i'n gyfrwng i dynnu sylw at yr Orsedd a'r gwaith mae'n wneud."

Pa mor berthnasol yw'r gwaith mae'r Orsedd yn ei wneud erbyn hyn?

"Mae'n waith pwysig iawn - dathlu a gwobrwyo rhagoriaeth. Rhagoriaeth lenyddol - barddoniaeth a rhyddiaith - trwy'r prif seremonïau. Ond hefyd cydnabod rhagoriaeth ym mhob mathau o feysydd trwy'r aelodau er anrhydedd. Mae 'na lawer iawn o bethau i ymfalchio ynddynt yng Nghymru ac mae'r Orsedd yn gyfrwng i wneud hynny."

'Meddwl y tu allan i'r bocs'

Ers iddi gael ei dewis yn Archdderwydd, mae Christine James wedi pwysleisio ei bod yn awyddus i sicrhau bod yr Orsedd yn adlewyrchu Cymry Cymraeg o bob cefndir a thras ethnig.

"Dwi'n awyddus i barhau â'r agenda cynhwysol mae Jim Parc Nest wedi bod yn gwthio yn ystod ei gyfnod e fel Archdderwydd," meddai. "Er enghraifft, mae 'na gyfartaledd bellach yn nhrefn y lliwiau - does 'na ddim hierarchaeth, mae'r lliwiau yn adlewyrchu natur cyfraniad yr aelodau. Ac mae'r ffaith fod 'na ferch yn Archdderwydd yn dangos bod 'na gyfartaledd o ran y rhywiau.

"Rwy'n awyddus fod gan bobl sy'n medru'r Gymraeg rôl yn yr Orsedd, pa bynnag dras ethnig neu gefndir ydyn nhw. Mae ishe ystyried yn ymarferol sut mae gwneud hynny. Dwi ddim eisiau cyfaddawdu ar y ffaith bod yn rhaid gallu siarad Cymraeg. Ond ar ôl hynny, mae 'na lawer o bethau y gallwn ni ystyried. Mae 'na lawer iawn o bobl o dras ethnig gwahanol sy'n cyfrannu i'r bywyd Cymraeg ac mae'n gyfle i edrych ar hynny a chroesawu'r bobl yma i'n plith - meddwl y tu allan i'r bocs fel petai."

Fore Llun, bydd Dr James yn annerch o'r Maen Llog am y tro cynta' yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ydy hi'n bwriadu parhau â'r traddodiad o wneud datganiadau archdderwyddol ar faterion dadleuol, felly?

"Mae'n sicr yn gyfle i rannu fy meddyliau ar wahanol bethau sy'n wir am y Gymru gyfoes, dweud fy nweud ar bethau sy'n agos at fy nghalon. Wrth i mi ddatblygu yn fy swydd, efallai bydd rhai pethau yn fwy llosg na'i gilydd.

"Dydw i ddim yn berson sy'n areithio yn wleidyddol fel arfer, nid dyna fy natur. Ond mae gen i farn ac rwy'n edrych 'mlaen at gael mynegi'r farn honno."