Bachgen pump oed: Anafiadau i'w ben

Mae bachgen pump oed wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad â char ddydd Llun yng Nghei Conna.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad yn St Mark's Avenue gan y gwasanaeth ambiwlans am 5.18pm ar ôl i'r bachgen, a oedd yn chwarae ar ei feic, gael ei daro gan Fiat Punto lliw arian.

Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gydag anafiadau i'w ben.

Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'r achos yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.