Bale: 'Angen cynnig gwallgof'

  • 30 Gorffennaf 2013
Gareth Bale

Mae cyn hyfforddwr Tottenham David Pleat yn dweud y bydd yn rhaid i Real Madrid gynnig arian gwallgof er mwyn sicrhau gwasanaeth y Cymro Gareth Bale.

"Pe bai swm anhygoel, fel £100 miliwn, yn cael ei gynnig, yna dwi'n credu y byddai'r perchennog Daniel Levy yn ildio.

"Byddai hyd yn oed y cefnogwyr yn deall pe bai arian fel hyn yn cael ei gynnig."

Mae Gareth Bale wedi awgrymu ei fod am gael caniatad Spurs i siarad gyda Madrid.

Ond mae Pleat o'r farn fod Bale, sy'n 24, yn rhy ifanc.

"Rwyf o'r farn ei fod ychydig yn rhy ifanc i chwarae dramor.

"Fyddai e ddim yn ei chael hi'n hawdd. Mae sawl un wedi methu ar ôl symud dramor."

"Un neu ddau yn unig sydd wedi llwyddo."

Fe wnaeth Bale ymuno a Tottenham o Southampton yn 2007.

Fe wnaeth o arwyddo cytundeb newydd pedair blynedd ym Mehefin 2012.

Yn ystod tymor 2012-13 fe wnaeth yr asgellwr rhyngwladol sgorio 26 o goliau.

Dywed rheolwr Spurs Andre Villas-Boas nad yw'r Cymro ar werth