Dyn yn yr ysbyty dilyn ymosodiad

  • 28 Gorffennaf 2013

Mae dyn 54 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad tu allan i dafarn yn Abergele.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru fe ddigwyddodd yr ymosodiad nos Iau ond ni chafodd yr heddlu wybod tan fore Sadwrn.

Mae dyn a dynes leol wedi eu harestio yn sgil y digwyddiad.

Mae'r heddlu yn awyddus i unrhywun welodd yr ymosodiad tu allan i dafarn Pen-y-Bont am tua 10:30pm gysylltu â nhw ar 101.

Gall bobl hefyd ffonio Tacle'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.