Cytundeb yn diogelu 150 o swyddi yn ne Cymru

Radio Bowman
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dweud bod y system gyfathrebu yn hanfodol i filwyr dros y byd

Mae cwmni amddiffyn yn ne Cymru wedi enill rhan o gytundeb gan y Weinyddiaeth Amddiffyn sydd werth £45 miliwn.

Bydd General Dynamics UK, sydd wedi eu lleoli yn Oakdale yn Sir Caerffili yn gyfrifol am gynnal y radio Bowman i'r lluoedd arfog.

Mae'r cytundeb yn diogelu 150 o swyddi yn y cwmni amddiffyn.

Bydd 150 o swyddi eraill yn cael eu diogelu dros y ffin yn Lloegr.

Bowman yw system gyfathrebu ddiogel y lluoedd arfog, sy'n galluogi i filwyr gyfathrebu gyda'i gilydd yn y maes, ar y môr neu yn yr awyr.

Mae'r dechnoleg yn adnodd hanfodol i filwyr yn Afghanistan, sy'n dibynnu arno i gyfathrebu yn y maes, a cheisio aros yn ddiogel.

Bydd General Dynamics UK yn darparu cefnogaeth dechnegol i filwyr sy'n ei ddefnyddio ar draws y byd.

Mae'r cytundeb hefyd yn diogelu swyddi yn Lloegr; yn Bicester, Basingstoke a Farnham.