Ennill Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg

Alwyn Owens
Mae Alwyn Owens wedi bod yn weithgar iawn ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg ers blynyddoedd

Alwyn R. Owens, o Ynys Môn, sydd wedi derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg 2013 yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau.

Cafodd y peiriannydd - sydd wedi ymwneud â thechnoleg a gwyddoniaeth yn y Brifwyl ers blynyddoedd - ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn fore dydd Iau.

Dywedodd ei fod yn falch iawn o dderbyn y wobr, er ei syndod.

"Roedd yn dipyn o sioc pan glywes i," meddai, "ond mae'n binacl oes o ymwneud â thechnoleg a gwyddoniaeth, yn arbennig yn yr Eisteddfod - efo'r Babell Wyddoniaeth a chystadlaethau, yn ogystal â sioeau a phasiantau."

Fe'i magwyd yn Llanrwst, pan oedd y dref yn rhan o'r hen Sir Ddinbych, ond mae bellach yn byw ym Mhorthaethwy.

Peirianneg

Bu'n Bennaeth Adran Electroneg Prifysgol Bangor tan ei ymddeoliad ym 1998. Mae'r adran yn un o noddwyr y Babell Wyddoniaeth a Thechnoleg eleni.

Mae ei gysylltiad â'r brifysgol yn dyddio'n ôl i'r cyfnod pan aeth i'r coleg i astudio peirianneg trydanol, gan raddio gyda Dosbarth Cyntaf.

Bu'n weithgar iawn ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg am flynyddoedd lawer. Roedd yn gadeirydd y pwyllgor a drefnodd yr arddangosfa wyddoniaeth gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd yn 1966, ac mae'n parhau i ymddiddori ym maes cyflwyno gwyddoniaeth i'r cyhoedd.

Bu'n gadeirydd Pwyllgor Canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol am rai blynyddoedd, ac yn gadeirydd y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.

'Wil i'w Wely'

Fo hefyd, gyda'r diweddar Athro J O Williams, oedd beirniad cyntaf cystadleuaeth 'Wil i'w Wely' yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fe fu'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth am flynyddoedd.

Meddai: "Mae gwyddoniaeth wedi dod yn rhan fawr o batrwm yr Eisteddfod erbyn hyn, ac mae'r cyfan wedi datblygu'n arw erbyn heddiw.

"Cystadleuaeth 'Wil i'w Wely' oedd y peth mawr. Roedden ni'n rhoi'r stwff mwya' elfennol i bobl eu defnyddio - darnau o bren, hoelion, tŵls syml - a rhoi tasgau eitha' creadigol iddyn nhw, fel mynd â neges ar draws afon.

"Dwi'n cofio yn Llandeilo, mynd â neges o'r maes i'r castell oedd yr her. Mae dychymyg yn rhan bwysig iawn wrth lunio'r cystadlaethau 'ma. Wrth gwrs, mae wedi datblygu erbyn hyn - pobl hŷn oedd yn cystadlu i ddechrau, ond wedyn mi ddechreuodd 'Wil Bach' ar gyfer y cystadleuwyr ieuengach.

"Wrth gwrs, yn y gorffennol roedd pobl yn gwybod sut i ddefnyddio pethau fel mwrthwl a lli. Ond falla nad ydy cymaint o bobl ifanc yn gwybod sut i gnocio hoelion erbyn hyn! Dydyn nhw ddim yn cael eu hyfforddi ar y tŵls yn yr un ffordd."