Arwyr Glew Erwau'r Glo

  • 23 Gorffennaf 2013

Yn ddiweddarach eleni fe fydd cymunedau Cwm Aber ger Caerffili yn coffau canmlwyddiant tanchwa Senghennydd - y drychineb ddiwydiannol waetha yn hanes yr ynysoedd hyn. Lladdwyd 440 o ddynion a bechgyn gan y ffrwydrad yng nglofa'r Universal ac fel y dengys cyfrol ddiweddar yn y gyfres "Llafar Gwlad" fe effeithiodd y gyflafan ar Gymru gyfan nid ar gymoedd Aber a Rhymni yn unig.

Roedd fy nheulu i yn un o'r rhai effeithiwyd ond dim ond i'r graddau bod fy hen daid wedi gorfod claddu a chysuro teuluoedd y rheiny o'r rhai a laddwyd oedd yn aelodau yn Adulam, Abertridwr a Groeswen. Mae hanesion y teuluoedd a adroddir yng nghyfrol Myrddin ap Dafydd yn llawer mwy dirdynnol na hynny.

Fel gyda phob digwyddiad hanesyddol bron fe fyddai'n bosib adeiladu naratif gwleidyddol ynghylch trychineb Senghennydd. Rhywbeth ynghylch gwrhydri'r dynion a thrachwant y meistri fyddai hwnnw, mae'n debyg, ac fe fyddai 'na elfennau o wirionedd yn perthyn iddo.

Pe na bai'r drychineb wedi digwydd fe fyddai hi'r un mor bosib i bobol o anian asgell dde ddyrchafu William Lewis, perchennog y pwll, yn rhyw fath o arwr - y crwt lleol wnaeth ddringo'r ysgol gyfalafol a gwleidyddol heb anghofio ei wreiddiau. Oni bai am y danchwa mae'n debyg y byddai Arglwydd Merthyr yn derbyn yr un fath o barch heddiw ac mae David Davies Llandinam - i'r graddau y mae hwnnw'n cael ei barchu!

Y pwynt yw hyn - dyw hanes ddim yn beth niwtral. Mae'n bosib darllen sawl ystyr gwahanol ym mhob un digwyddiad hanesyddol ac yn eu hanfod mae penderfynu pa wersi yw dysgu a pha bethau i'w cofio yn benderfyniadau gwleidyddol.

Dydw i ddim yn dweud unrhyw beth arbennig o newydd trwy ddweud hynny. Y cof sy'n creu'r unigolyn, ei gymuned a'i genedl. Mae hynny wedi bod thema gyson i sawl gwleidydd a llenor ond efallai mai George Orwell ddywedodd hi orau; "Who controls the past controls the future. Who controls the present controls the past".

Yn y cyd-destun hwnnw efallai taw un o'r adolygiadau pwysicaf sy'n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd ydw hwnnw sy'n cael ei arwain gan Dr Elin Jones sy'n paratoi argymhellion ynghylch y ffordd y mae hanes Cymru'n cael ei dysgu yn ein hysgolion.

Mae'r grŵp eisoes wedi cyhoeddi ei gasgliadau cychwynnol sef bod y ffordd y mae hanes yn cael ei dysgu ar hyn o bryd yn eingl-sentrig ac y dylai disgyblion Cymru cael ei gwreiddio yn hanes eu gwlad eu hun yn gyntaf. Mae'r panel yn awr yn ymgynghori ynghylch pa agweddau o hanes Cymru y dylid eu cynnwys yn y maes llafur newydd.

Gan fod Elin Jones yn un o Gwm Rhymni gallwn fod yn weddol saff y bydd Senghennydd yn rhan o'r cwricwlwm a chan fod y Gweinidog Addysg yn un o feibion Aberfan gallwn fod yn sicr y bydd ef hefyd yn dymuno pwysleisio peryglon y pyllau.

Ond beth am agweddau eraill ar hanes Cymru? Canu Aneurin yntau Aneurin Bevan sydd bwysicaf, er enghraifft? Ai trwy ddrych cenedl yntau trwy ddrych dosbarth y mae gweld hanes Cymru. A ddylid edrych ar hanes ein gwlad fel un stori ddi-dor fel mae John Davies yn gwneud neu fel y gyfres o chwyldroadau a bortreadwyd gan Dai Smith?

Dyw'r rhain ddim yn gwestiynau sydd ag atebion "cywir" ac "anghywir" ond mae'r atebion a gytunir arnynt yn hynod bwysig. Trwy ddygymod a'n gorffennol y rheolwn ein dyfodol. Mae hynny'n dipyn o gyfrifoldeb ar ysgwyddau grŵp gorchwyl a gorffen!