Sioe: Gofyn barn ffermwyr ar y PAC

  • 23 Gorffennaf 2013
Cae
Image caption Mae'r Comisiwn Ewropeaidd eisiau i ffermwyr 'wyrddio' eu ffermydd

Mae'r Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies wedi lansio ymgynghoriad ar y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) ar faes y Sioe Frenhinol heddiw.

Prif bwrpas yr ymgynghoriad yw gofyn barn ffermwyr ac eraill ynglŷn â sut dylai taliadau PAC gael eu gwneud yn y dyfodol.

Mae gan y gweinidog syniadau ar gyfer sut y dylai'r system weithio ar ôl Ionawr 2015 ac fe gyhoeddodd ei gynlluniau ar y maes.

Dywedodd ffermwyr ar y maes eu bod nhw'n croesawu'r ymgynghoriad cyn belled a bod y gweinidog yn gwrando ar eu barn.

Newidiadau

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd eisoes wedi cytuno ar ddiwygiadau ar gyfer y system daliadau PAC fydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2015.

Bydd y system newydd yn newid y ffordd y mae rhai ffermwyr yn cael eu talu drwy orfodi gwledydd i dalu ffermwyr ar sail arwynebedd eu tir yn hytrach nac ar sail taliadau hanesyddol.

Mae newidiadau eraill yn cynnwys uchafswm ar y taliadau y gall ffermwyr unigol eu derbyn, sicrhau mai dim ond ffermwyr sy'n weithgar all dderbyn arian a gorfodi ffermwyr i fabwysiadu dulliau gwyrdd o ffermio.

Bydd 30% o'r arian y mae ffermwyr yn ei dderbyn yn seiliedig ar y meini prawf 'gwyrddio' hyn - bydd rhaid i ffermwyr ddangos eu bod yn cymryd camau i amrywio eu cnydau yn ogystal â sefydlu glaswelltir parhaus ac ardaloedd o ffocws ecolegol ar eu ffermydd.

Dyw'r Senedd Ewropeaidd ddim wedi cytuno ar faint o arian y bydd ffermwyr yn ei dderbyn drwy'r PAC wedi 2013 eto ond mae disgwyl iddo fod yn llai nac mewn blynyddoedd blaenorol.

'Gostyngiad pellach'

Yn siarad cyn lansio'r ymgynghoriad dywedodd Alun Davies: "Mae materion yn ymwneud â'r PAC wedi bod ar flaen fy agenda ers i mi ymuno â Llywodraeth Cymru yn 2011.

"Yn fras, mae'r cytundeb PAC gafodd ei gytuno yn Ewrop yn dda i Gymru ac mae'n adlewyrchu fy mlaenoriaethau negodi allweddol.

"Nawr mae'n rhaid i mi ddechrau gwneud penderfyniadau ar sut y bydd y system yn gweithio yng Nghymru a sicrhau bod taliadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau.

"Ni allaf bwysleisio digon bod y cyfnod sydd i ddod o gefnogaeth warantedig - un nad yw unrhyw fath arall o fusnes yn ei dderbyn - yn un y mae'n rhaid ei ddefnyddio i baratoi ar gyfer y tebygolrwydd y bydd gostyngiad pellach mewn taliadau uniongyrchol ar ôl 2020.

"Beth rwyf i angen yn awr yw i ffermwyr a chymunedau amaethyddol i roi eu barn ar y cynigion yr wyf yn eu gosod allan."

Fe gynnigodd Mr Davies:

  • Symud i system daliadau ar sail ardal dros gyfnod o bum mlynedd, yn seiliedig ar gategorïau tir sy'n cydnabod y gwahanol nodweddion a chynhyrchiant o wahanol fathau o dir;
  • Agwedd bragmatig i 'wyrddio' gan ddefnyddio porfa barhaol, cnydau âr a meysydd ffocws ecolegol a gynigiwyd gan Ewrop, yn hytrach na chreu cynllun penodol ar gyfer Cymru;
  • Ymagwedd gadarn tuag at gapio taliadau mawr fydd yn mynd y tu hwnt i ofynion gorfodol Ewrop fydd yn gosod cap o 100% ar daliadau dros € 300,000;
  • Mabwysiadu dull arfaethedig Ewrop i ddiffinio 'ffermwyr actif';
  • Trosglwyddo cyllideb o Golofn 1 (taliadau uniongyrchol i ffermwyr) i Golofn 2 (Cynllun Datblygu Gwledig).

Dywedodd Aled Rees, ffermwr o Aberteifi: "Mae'n bwysig ein bod ni'n siarad gyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod ni fel ffermwyr yn gweld arian dod o Ewrop yn dod i ni ffordd gora posib.

"Rwy'n gobeithio y gwnan nhw wrando ar be sydd gan ffermwyr i wneud, yn hytrach na ond ticio bocsys."

Gwenyn

Ar y maes ddydd Mawrth fe wnaeth Mr Davies hefyd gyhoeddi cynllun ar gyfer ceisio atal y lleihad yn niferoedd gwenyn.

Mae'r llywodraeth eisiau annog llefydd gwyrdd, gerddi a rhandiroedd er mwyn rhoi hwb i beillwyr fel gwenyn a gloÿnnod byw.

Dywedodd is-gadeirydd Cymdeithas Gwenynwyr Cymru Jenny Shaw: "Mae coed a llwyni yn bwysig iawn fel ffynonellau hwyr a chynnar o neithdar a phaill, a hefyd fel safleoedd nythu da i lawer o'n peillwyr brodorol.

"Mae sycamorwydden yn eu blodau yn gwbl orlawn o wenyn. Mae helyg a gwyddau bach cyll hefyd yn bwysig iawn oherwydd eu bod yn dod allan ar adeg o'r flwyddyn pan nad oes llawer o bethau eraill yn eu blodau."

Straeon perthnasol