Cymdeithas yn beirniadu Cyngor Caerdydd

Plant yn chwarae gyda thywod
Image caption Dywed y cyngor eu bod yn ymateb i'r galw am addysg Gymraeg trwy ymestyn Ysgol Pwll Coch

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Caerdydd i fwrw ymlaen gydag ymgynghoriad ar ymestyn y ddarpariaeth sydd ar gael yn ysgol Pwll Coch.

Yn ôl y gymdeithas mae'r penderfyniad yn mynd yn groes i addewid y cyngor i adeiladu ysgol cyfrwng Gymraeg yn ardal Grangetown.

Mae'r cyngor yn bwriadu sefydlu trydedd ffrwd barhaol yn ysgol Gymraeg Pwll Coch - dywed rhai mae trefniant dros dro oedd hwn i fod tra roedd ysgol Gymraeg newydd yn cael ei adeiladu.

Ond mae Cyngor Caerdydd yn gwadu eu bod nhw wedi addo adeiladu ysgol Gymraeg newydd gan ddweud nad oes safle erioed wedi cael ei glustnodi ar gyfer un yn ardal Grangetown.

Picedu

Fe wnaeth cabinet y cyngor gyfarfod i drafod ysgolion y sir ddydd Llun tra roedd tua 50 o ymgyrchwyr yn picedu y tu allan.

Fe benderfynodd y cyngor y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ym mis Medi ar gynllun i wneud y trefniant o yrru plant i Ysgol Pwll Coch yn un parhaol.

Yn ôl y cyngor byddai hyn yn ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg yn ardaloedd Grangetown, Canton a Riverside Caerdydd.

Ond mae Cymdeithas yr Iaith a Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi beirniadu'r penderfyniad, gan ddweud ei fod yn torri addewid y cyngor i adeiladu ysgol cyfrwng Gymraeg newydd.

'Perthyn i bawb'

Dywedodd Euros ap Hywel, Swyddog Maes y De Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r Gymraeg yn rhywbeth a ddylai berthyn i bawb a byddai'r Cyngor, drwy dorri ei addewid, yn rhwystro cenedlaethau o blant rhag cael y gallu i fyw yn Gymraeg.

"Dylai fod ysgol Gymraeg leol i bob cymuned yn y ddinas."

Ychwanegodd: "Mae addysg Gymraeg yn rhoi sylfaen gref i blant a phobl ifanc allu byw a gweithio yn Gymraeg wedi iddyn nhw adael yr ysgol - a sicrhau fod y brifddinas yn dod yn un Gymraeg drwyddi draw.

"Fwy nag erioed, mae angen sicrhau'r Gymraeg yn iaith i bawb yng Nghaerdydd, beth bynnag eu cefndir."

Llythyr

Roedd RhAG wedi anfon llythyr at gynghorwyr y brifddinas yn lleisio'u gwrthwynebiad i'r cynlluniau arfaethedig.

Mae'r mudiad yn ofni y byddai gwneud trydedd ffrwd yn Ysgol Pwll Coch yn un barhaol yn cael effaith andwyol ar addysg y disgyblion gan fod yr ysgol eisoes yn rhy llawn.

Meddai'r llythyr: "Rydym o'r farn nad yw'r cynnig i helaethu Ysgol Pwll Coch a sefydlu trydedd ffrwd barhaol yno yn ddatrysiad derbyniol i'r galw cynyddol am leoedd cynradd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Mae gwrthwynebiad y rhieni i'r cynnig hwnnw'n glir.

"Amlygwyd hyn yn ystod ymgynghoriad mis Ebrill, lle bu'r ymateb yn ffyrnig ar lafar ac mewn 179 o lythyron gwrthwynebus gyda 17 yn unig o blaid y cynllun.

"Byddai gwasgu mwy o blant ar safle Ysgol Pwll Coch yn gwbl annheg ar y disgyblion ac yn gam gwag o safbwynt cynllunio Addysg Gymraeg yn yr ardal."

'Ymateb i'r galw'

Ond mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod yn ymateb i'r galw am addysg Gymraeg a bod yr ymgynghoriad ar ymestyn Ysgol Pwll Coch yn dangos hynny.

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: "Er gwaethaf honiadau i'r gwrthwyneb, nid oes safle erioed wedi cael ei nodi a'i sicrhau ar gyfer ysgol cyfrwng Gymraeg un math o fynediad yn Grangetown.

"Bydd arian gan y rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif ond yn cael ei ryddhau pan fydd safle wedi ei ddarganfod ac achos busnes wedi ei dderbyn.

"Ni ddaethpwyd o hyd i safle, ni chafodd cynllun busnes ei gyflwyno a ni chafodd arian ei sicrhau gan y weinyddiaeth flaenorol.

"Yn wahanol i'r cynnig a gyflwynwyd yn gynharach eleni oedd wedi ei gynllunio fel trefniant dros dro, byddai'r cynnig hwn yn cyd-fynd â buddsoddiad cyfalaf llawn ym Mhwll Coch fyddai'n darparu amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf erbyn Medi 2015.

"Byddai hyn o fudd i'r boblogaeth ehangach yr ysgol gan gynnwys y plant hynny sy'n mynychu'r ysgol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.