Gwirfoddolwyr a gwaddol Prifwyl 2013

  • 10 Awst 2013
Maes Eisteddfod 2012
Mae gwirfoddoli yn rhan bwysig iawn o lwyddiant unrhyw Eisteddfod Genedlaethol

Mae 'na ddywediad yn Saesneg - tu ôl i bob dyn da, mae 'na wraig dda. Wel tu ôl i bob 'Steddfod dda, mae 'na wirfoddolwyr da.

Yn sicr, does dim prinder ohonyn nhw wedi bod yn Sir Ddinbych, nid yn unig yn yr Eisteddfod ei hun ond dros y ddwy flynedd yn paratoi at yr wythnos fawr.

Mae tua 150 wedi cynnig eu cymorth dros y naw niwrnod diwetha' a llawer mwy wedi bod yn rhan o gynlluniau cymunedol dros y misoedd.

Gyda'r Brifwyl wedi ymweld â'r un safle yn 2001, roedd nifer o'r gwirfoddolwyr wedi cael profiad ac yn gwybod beth oedd angen ei wneud.

Ond mae Eisteddfod 2013 wedi cynnig cyfle a phrofiadau newydd i rai, Bethan Webber o Ddinbych yn eu plith.

Roedd hi wedi cymryd wythnos o wyliau o'i gwaith gyda Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno er mwyn cynnig ei gwasanaeth i'r Brifwyl.

Bethan Webber
Mae Bethan yn bwriadu gweithio yn yr Eisteddfod eto yn y dyfodol

'Dod â ni at ein gilydd'

"Ro'n i'n teimlo, gan fod y 'steddfod ar geg y drws, y dylwn i roi fy enw 'mlaen i wirfoddoli," meddai ar ddiwedd wythnos brysur.

"Dwi wedi mwynhau'n ofnadwy, wedi dod ar draws bobl dwi ddim wedi gweld ers tua 25 mlynedd. Mae'r 'Steddfod wedi dod â ni at ein gilydd.

"Mae wedi bod yn 'steddfod emosiynol, un y bydda' i'n cofio am weddill fy mywyd."

Dywedodd ei bod wedi gwneud ffrindiau newydd ymhlith y stiwardiaid eraill.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig i'r 'Steddfod barhau i deithio fel bod pobl ym mhob rhan o Gymru'n cael yr un profiad.

"Dwi wedi cael y bug rwan ac wedi cynnig fy help ar gyfer Eisteddfodau eraill."

Cynllun newydd

Yn ogystal â stiwardio, roedd Bethan yn rhan o gynllun Yma i Helpu, prosiect newydd y Brifwyl oedd yn cynnig cyfleoedd i bobl wirfoddoli a chael hyfforddiant am ddim.

Roedd 'na hefyd gyfleoedd i arwain teithiau tywys o amgylch y Maes, ymateb i ymholiadau y tu ôl i'r ddesg wybodaeth yn y Ganolfan Ymwelwyr, rhedeg pwyntiau gwybodaeth a chynghori a helpu ymwelwyr.

Roedd wythnos y Brifwyl yn benllanw dwy flynedd o waith caled gwirfoddolwyr ac roedd mwy na 42 o bwyllgorau apêl yn Sir Ddinbych wedi trefnu dros 315 o ddigwyddiadau.

Er iddyn nhw gyrraedd y targed ariannol o £300,000 erbyn mis Mehefin, fe wnaethon nhw barhau i gynnal gweithgareddau a chodi arian.

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: "Mae Dyffryn Clwyd yn lle arbennig - maen nhw'n bobl sydd yn gwybod beth ydy Eisteddfod, maen nhw'n gwybod sut i gasglu arian ac maen nhw'n gwybod sut i wneud hynny yn ogystal â mwynhau eu hunain.

"Fydden i'n mynd bron mor bell â dweud fod cynnal y gweithgareddau yn lleol yn ystod y ddwy flynedd bron iawn cyn bwysiced â'r ŵyl ei hun.

"Proses, nid digwyddiad, yw'r Eisteddfod ac mae pobl Sir Ddinbych wedi profi hynny.

"Mae trefnu'r gweithgareddau yma'n bwysig o ran codi proffil y Gymraeg a chryfhau cymunedau. Mae'n bwysig fod pobl yn deall mai nad dim ond gŵyl wyth niwrnod ydy'r Eisteddfod Genedlaethol."

'Dwy flynedd'

Dywedodd John Glyn Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith eleni, fod yr amryw weithgareddau yn help mawr i godi proffil y Brifwyl a chodi ymwybyddiaeth o Gymreictod.

"Dydy'r Eisteddfod ddim yn rhywbeth sydd ond yn para wythnos," meddai. "I mi, mae'n para dwy flynedd ac mae'r gweithgareddau sydd wedi'u trefnu trwy'r sir i gyd, a hynny drwy'r Gymraeg, wedi bod yn rhywbeth gwerth chweil ynddo'i hun.

"Yn nhref Dinbych, er enghraifft, mae 'na 50 o ddigwyddiadau wedi'u cynnal - dim ond un pwyllgor apêl ydy hwnnw.

"Mae 'na bob math o weithgareddau wedi'u cynnal o bethau plant, i gyngherddau, i grwpiau cerdded, teithiau beics, neu gystadlaethau golff a rygbi - pob math o bethau sydd yn werthfawr iawn i ardal.

"Dydy codi pres ddim bob amser yn faich. 'Dan ni wedi mwynhau'r gweithgareddau sydd wedi cael eu cynnal. Dwi'n gobeithio'n fawr y bydd 'na waddol ar ôl i'r Eisteddfod fod - yn sicr, mi fydd 'na o ran apêl dysgu Cymraeg."