Ras yr Wyddfa: Andi Jones yn ennill eto

Andi Jones
Fe gwblhaodd Andi Jones yr 16 cilometr mewn 1:08:50

Andi Jones o Salford ger Manceinion sydd wedi ennill Ras yr Wyddfa eleni.

Dyma'r chweched tro iddo ennill.

Llwyddodd i gyrraedd y copa a dod yn ôl mewn 1:08:50

Roedd disgwyl 600 i rasio i ben y mynydd ac yn ôl ddydd Sadwrn.

Dyma'r 38ain tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal.

Yn gynharach yn yr wythnos roedd y trefnwyr wedi mynegi pryder bod y Wyddfa yn 'rhy brysur' i gynnal y ras mewn ffordd ddiogel a'i bod eisiau caniatâd i gau'r mynydd i gerddwyr yn y dyfodol.