Elusen yn rhybuddio am dlodi gwledig

  • 19 Gorffennaf 2013
Cefn Gwlad
Image caption Mae elusen yn dweud bod tlodi yn cynyddu mewn cymunedau yng nghefn gwlad

Mae elusen yn dweud bod dwywaith gymaint o arian wedi ei roi i deuluoedd sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd eleni, na'r un cyfnod y llynedd.

Mae'r Sefydliad Fuddiannol Amaethyddol Frenhinol wedi dweud wrth BBC Cymru bod cynnydd mawr wedi bod yn yr arian sy'n cael ei dalu mewn grantiau 'caledi' o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2012.

Yn ôl yr elusen, mae dros £200,000 wedi ei roi i 240 o deuluoedd yn barod yn 2013, i helpu gyda biliau neu ddyledion.

Mae £55,000 wedi ei roi yn Sir Drefaldwyn yn unig, gyda £44,000 yn mynd i ffermwyr neu weithwyr amaethyddol.

Yn chwe mis cyntaf 2012, dim ond £1500 cafodd ei roi.

Cynnydd

Yn ôl y Sefydliad Fuddiannol Amaethyddol Frenhinol, mae £218,411 wedi ei roi mewn grantiau hyd at ddiwedd mis Mehefin eleni, cymaint â'r swm gafodd ei roi drwy'r flwyddyn y llynedd.

Yn chwe mis cyntaf 2012, £121,495 oedd y swm a roddwyd mewn grantiau.

Mae chwarter o boblogaeth Powys yn ddi-waith, cyfran uwch na chyfartaledd Cymru. Ond mae maer Llanidloes Phyl Davies yn dweud bod y sefyllfa yn cael ei waethygu drwy gyflogau isel i rheini sydd mewn gwaith.

Mae ffigyrau yn dangos mai £22,000 yw'r cyflog cyfartalog, ond mae Mr Davies yn dweud nad ydy hynny'n gynrychiolaeth glir o'r sefyllfa.

"Dydy pobl ddim yn deall, mewn cymuned wledig fel yma dydy'r cyflog cyfartalog ddim yn dangos y sefyllfa yn glir oherwydd nifer o weithwyr sector gyhoeddus sydd ar gyflogau uchel."

"Dydy'r ffigwr ddim yn cynrychioli cyflogau y sector breifat, sef asgwrn cefn cymunedau fel hyn, lle does ond ychydig o ddiwydiant ar ôl."

"Mae cyflogau yn agosach at £12,000 i £18,000 y flwyddyn am weithio 40 awr yr wythnos."

Amaeth

Cafodd £118,770 ei roi i amaethwyr yn chwe mis cyntaf 2013, ond mae'r Sefydliad Fuddiannol Amaethyddol Frenhinol yn nodi nad yw'r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer busnesau'r ffermydd nac anifeiliaid.

Dywed y sefydliad bod sawl ffactor yn golygu bod nifer cynyddol o ffermwyr angen cymorth ariannol i dalu biliau.

Mae'r rhain yn cynnwys yr eira trwm a effeithiodd rhannau helaeth o'r wlad dros y gaeaf, costau yn cynyddu ond incwm yn disgyn, a heintiau fel TB yn effeithio ar stoc.

Maen nhw hefyd yn awgrymu bod 10% o wariant wythnosol teulu amaethyddol yn mynd ar fwyd, ac 16% ar drafnidiaeth.

Mae ffermwyr yn dweud bod cost cadw anifeiliaid yn codi, ac felly cig yn ddrud yn y siopau. Ond mae cwsmeriaid yn prynu darnau rhatach o'r anifail sy'n golygu llai o incwm hefyd.

'Heriau'

Ond nid yn unig ffermwyr sy'n teimlo costau byw yn codi.

Mewn ardal wledig mae nifer fawr o bobl yn ddibynnol ar geir i deithio, ac mae rhan sylweddol o incwm yn cael ei wario ar danwydd.

Mae diwydiant hefyd wedi arafu yn yr ardal, gan olygu bod llai o swyddi ar gael, a llai o gyfleoedd.

Mae Lou Evans yn gweithio mewn siop ddodrefn yn Llanidloes:

"Mae teithio yn cael effaith fawr, rhaid i mi deithio 20 milltir i gyrraedd fy ngwaith neu'r archfarchnad agosaf."

"Rydw i yn ofalus wrth siopa am fwyd, ac rydw i hefyd yn tyfu llysiau fy hun i geisio lleihau'r gost."