Dyn wedi marw ar ôl mynd i nofio mewn cronfa ddŵr

  • 15 Gorffennaf 2013

Mae dyn wedi marw ar ôl nofio yng nghronfa ddŵr Pontsticill ger Merthyr ddydd Sadwrn.

Fe gafodd Heddlu'r De ei galw i'r ardal toc wedi 4pm wedi adroddiadau fod dyn 52 oed wedi mynd i nofio ond ddim wedi dychwelyd.

Cafodd corff y dyn ei ddarganfod hanner awr wedi i'r chwilio ddechrau.