Darganfod corff ym Mannau Brycheiniog

Cronfa ddŵr Cantref, Powys
Mae'r gronfa ddŵr i'r gogledd o'r A470 ger Merthyr Tudful

Mae Heddlu Dyfed Powys sydd wedi bod yn chwilio am ddyn ger cronfa ddŵr ym Mannau Brycheiniog wedi darganfod corff.

Cafodd corff dyn ei ddarganfod ddydd Sul.

Roedd yn 24 oed.

Roedd yr awdurdodau wedi'u galw i gronfa ddŵr Cantref tua 2:45yh brynhawn Sul.

Cafodd ffordd yr A470 ei chau rhwng Merthyr Tudful a chyffordd yr A4059 i'r gogledd o'r safle wrth i'r gwasanaethau brys chwilio am ddyn ond roedd y ffordd wedi ail agor erbyn 7pm.

Mae Cronfa Ddŵr Cantref yn un o gyfres o gronfeydd ar hyd yr A470 ger Merthyr Tudful.