Undebau athrawon am streicio

  • 12 Gorffennaf 2013
Streic athrawon
Mae'r ddau undeb yn bwriadu cynnal streiciau yn yr hydref

Mae undebau sy'n cynrychioli athrawon yng Nghymru a Lloegr wedi dweud y byddan nhw'n cynnal mwy o streiciau.

Bydd yr NASUWT a'r NUT yn cynnal streic Brydeinig yn yr hydref.

Mae'r undebau yn anfodlon ar newidiadau i bensiynau, cyflogau a thelerau gwaith.

Yng Nghymru er bod addysg wedi ei datganoli, Michael Gove, y Gweinidog Addysg yn San Steffan, sy'n gyfrifol am amodau cyflogau.

Mae'r llywodraeth wedi dweud eu bod yn siomedig gyda streiciau, gan ddweud eu bod yn amharu ar addysg plant mewn ysgolion.

Ym mis Mehefin fe gynhaliwyd streic un diwrnod Prydeinig ac mae bwriad streicio eto ym mis Medi a'r Hydref.