Cyffur tebyg i ecstasi yn Ne Cymru

Fake ecstasy tablets Image copyright other
Image caption Mae pobl wedi bod yn cymryd y cyffur gan feddwl mae ecstasi ydy o

Mae heddlu'r de yn rhybuddio pobl i beidio cymryd cyffur sydd wedi ei ddarganfod yn yr ardal ac sy'n debyg i ecstasi, ond dipyn cryfach.

PMA yw enw'r cyffur ac mae'n medru arwain at dymheredd peryglus o uchel.

Yn ddiweddar mae nifer o farwolaethau yn Lloegr wedi cael eu cysylltu gyda'r cyffur.

Gwenwynig

Dywed yr heddlu bod pobl yn cymryd PMA gan feddwl mai ecstasi ydy o.

Cafodd y cyffur ei ddarganfod yn ardal Gorseinon yn Abertawe.

Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu'r De Andy Davies mae blaenoriaeth yr heddlu yw gwneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o beryglon y cyffur a cheisio sicrhau diogelwch unigolion:

"Fe ddylai pobl sydd yn defnyddio'r cyffur anghyfreithlon yma ac yn wir pob cyffur anghyfreithlon wybod nad ydyn nhw yn medru bod 100% yn sicr o'r hyn y maen nhw'n cymryd."

Ychwanegodd y gallai'r cyffur gynnwys amryw o gynhwysion gwenwynig.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am bobl yn ei werthu i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar y rhif 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.