Llywydd FA Cymru yn bygwth ymddiswyddo

  • 11 Gorffennaf 2013
Trefor Lloyd Hughes
Mae Trefor Lloyd Hughes yn credu bod penderfyniad y cyngor yn "an-ddemocrataidd"

Mae Llywydd Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn ystyried ymddiswyddo.

Dywedodd Trefor Lloyd Hughes fod penderfyniad cyngor y gymdeithas i wrthod ystyried tystiolaeth newydd yn ymwneud â'r penderfyniad i wahardd Y Barri a Llanelli o'r gynghrair yn "ddrwg i bêl-droed".

Bydd Mr Hughes yn cyhoeddi ei benderfyniad i un ai aros neu ymddiswyddo yn fyw ar Ar y Marc ar Radio Cymru fore Sadwrn.

Doedd Cymdeithas Pêl-droed Cymru ddim ar gael i wneud sylw ar y mater.

Diffyg democratiaeth

Mae Mr Hughes wedi bod yn lywydd ar Gymdeithas Bêl-droed Cymru ers 1989.

"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi gwneud penderfyniad drwg sydd ddim yn dda i bêl-droed yng Nghymru," meddai.

"Dwi'n meddwl y dylai cynghorwyr wnaeth bleidleisio i beidio trafod y mater sbïo ar eu hunain.

"Os fyddai'r drafodaeth wedi mynd yn ei flaen a'r un penderfyniad wedi cael ei wneud yna dim problem ond fedra i ddim cefnogi neb sydd ddim yn fodlon trafod.

"Dyna i be rydan ni'n dda. Dwi'n meddwl fod democratiaeth wedi mynd trwy'r drws."

Barri a Llanelli

Fe ddechreuodd yr helbul presennol pan benderfynodd y cyngor wrthod cais Y Barri a Llanelli i gael ail-ymuno a chynghrair Cymru wedi i'r ddau dîm gwreiddiol gael eu diddymu.

Roedd perchennog clwb Y Barri wedi tynnu'r tîm allan o'r gynghrair gyda dwy gêm ar ôl i chwarae yn dilyn blynyddoedd o drafferthion oddi ar y cae.

Ers hynny mae pwyllgor cefnogwyr y clwb wedi cymryd yr awenau - eu dadl nhw yw y dylen nhw gael ymuno a chynghrair Cymru gan nad eu bai nhw oedd bod y perchennog wedi eu tynnu o'r gynghrair.

Roedden nhw'n disgwyl y byddai nhw'n cael eu tynnu o'r adran gyntaf a'i rhoi yn y drydedd adran.

Roedd amgylchiadau Llanelli yn wahanol - fe gafodd eu clwb nhw ei ddirwyn i ben yn yr Uchel Lys oherwydd dirwy o £21,000.

Penderfynodd Cyngor y Gymdeithas Pêl-droed y byddai'n rhaid i'r ddau glwb ddechrau o'r dechrau, gan chwarae pêl-droed ar lefel "gemau parc".

Dyw'r cyngor erioed wedi esbonio'r penderfyniad.

Mae'r BBC yn deall mai un bleidlais gymrodd y cyngor ar y mater ar gyfer y ddau glwb er bod eu hamgylchiadau yn gwbl wahanol.

Fe ddaeth y newyddion eu bod wedi eu gwahardd o'r gynghrair yn gyfan gwbl yn sioc i Bwyllgor Cefnogwyr Y Barri - dywedodd y pwyllgor fod y newyddion wedi eu "syfrdanu".

Edrych eto

Roedd y gymdeithas wedi gofyn i'r cyngor edrych eto ar y penderfyniad ac wedi trefnu iddyn nhw gyfarfod yng Nghaersws ddydd Mawrth.

Ond gwrthododd y cyngor ymatal y rheolau sefydlog er mwyn galluogi i'r mater gael ei drafod o 15 pleidlais i 14 - roedd angen i ddau-draean o'r pwyllgor bleidleisio o blaid.

Mae Trefor Lloyd Hughes yn dweud ei fod yn ceisio newid y ffordd mae'r cyngor yn dewis ei haelodau - ar hyn o bryd mae 12 aelod allan o'r 30 yn "aelodau am oes".

Roedd yn pwyleisio bod bron i hanner cynghorwyr eisiau clywed y dystiolaeth newydd ond nad oedd hynny'n bosibl oherwydd rheolau'r cyngor.

Dywedodd Mr Hughes: "Ar hyn o bryd rhaid i mi ddweud dwi yn sbïo ar y sefyllfa, a bosib erbyn bora Sadwrn... dwi wedi gaddo dweud ar Ar y Marc ar BBC Cymru y bydda' i'n gwneud fy mhenderfyniad yn fanno.

"Dwi wedi trafod efo llawer o fy ffrindiau, a rheini yn gefnogol i mi dros alwada' ffon, ond dwi yn meddwl ystyried fy sefyllfa.

"Ydi hi'n well i fi aros a gweithio oddi fewn ta gadael er mwyn beth sydd orau i bêl-droed yng Nghymru?

"Dwi yn gobeithio os fedrai gario mlaen y galla i fynd a'r gymdeithas ymlaen fel bod pawb yn cael chware teg drwy sbïo ar ffurf newydd o gael cynghorwyr i fewn.

"Os ydyn nhw dros 50, 60 sbïo ar bethau fel 'na, cynghorwyr bywyd yno heb bleidlais, sbïo ar hynny, sbïo ar bob math o bethau a'i roi o flaen [y gymdeithas].

"I feddwl fy mod fi wedi dod o'r gwaelod i'r sefyllfa yma mae'n anhygoel. Mi drïa i weithio yn galed er mwyn pêl-droed yng Nghymru."

Bydd Ar y Marc yn cael ei ddarlledu am 8.30am dydd Sadwrn.