'Feto' i ASau Lloegr?

San Steffan
Image caption Mae'r Independent yn honni y gallai ASau o Gymru golli eu hawl i bledleisio ar rai materion yn San Steffan

Mae gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried rhoi 'feto' i ASau Saesnig ar ddeddfwriaeth sydd ond yn effeithio ar Loegr, yn ôl adroddiadau.

Mae sôn y gallai ASau yn Lloegr gael pwerau newydd i graffu a diwygio cyfreithiau yn ymwneud ag iechyd, addysg a thrafnidiaeth.

Ar hyn o bryd mae aelodau o Gymru a'r Alban yn gallu pleidleisio ar ddeddfau sy'n effeithio ar Loegr ond does gan ASau Saesneg ddim ffordd o bleidleisio ar faterion sy'n cael eu trafod yn y cynulliad a Holyrood.

Ond mae AS Plaid Cymru Jonathan Edwards yn honni bod deddfwriaethau sydd i weld ond yn effeithio ar Loegr yn effeithio ar Gymru hefyd oherwydd y ffordd mae San Steffan yn rhoi arian i Lywodraeth Cymru.

Cwestiwn West Lothian

Mae papur newydd yr Independent yn honni bod David Cameron a Nick Clegg wedi cytuno mewn egwyddor i roi mwy o ddweud i ASau Saesnig dros faterion sydd ond yn effeithio ar Loegr ac y gallai'r cynlluniau gael eu cyflwyno yn ystod yr hydref.

Un ffordd o wneud hyn fyddai caniatáu i ASau sydd ag etholaeth yn Lloegr yn unig fod yn bresennol yn ystod cam ychwanegol o'r broses ddeddfwriaethol.

Mae'r ffaith bod ASau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu pleidleisio ar faterion sydd i weld ond yn effeithio ar Loegr yn cael ei alw yn Gwestiwn West Lothian, ar ôl yr AS a gododd y mater yn Nhŷ'r Cyffredin am y tro cyntaf.

Fe gafodd Comisiwn McKay ei sefydlu er mwyn edrych beth ddylid ei wneud ynglŷn â'r mater ac fe wnaeth hwnnw ddweud bod angen diwygio'r system bresenol.

'Gwladwriaeth aml genedl'

Roedd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, yn rhan allweddol o dîm a oedd yn gwneud ymchwil a ddefnyddiwyd gan Comisiwn McKay.

Dywedodd wrth i'r comisiwn gyhoeddi'r adroddiad ym mis Mawrth: "Mae adroddiad Comisiwn McKay ynddo'i hun yn garreg filltir yn hanes y modd mae tiriogaethau'r Deyrnas Unedig yn cael eu llywodraethu.

"Er mai digon cyfyngedig yw'r newidiadau a argymhellir gan y Comisiwn, byddent yn cynrychioli newid o bwys pe baent yn cael eu rhoi ar waith.

"Yn hytrach na thrin Lloegr fel rhyw fath o gategori dros ben - neu'r hyn sy'n weddill pan fo Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi mynd ar eu trywydd eu hunain - byddai Lloegr yn cael ei chydnabod yn glir fel rhan lawn o'r Undeb a bod ganddi (o bosibl, o leiaf) ei barn a'i llais ei hun.

"Ar lefel gyfansoddiadol, byddai'r DU yn datblygu i fod yn wladwriaeth aml genedl, sef yr hyn ydyw mewn gwirionedd."

Senedd i Loegr?

Un opsiwn mae'r tair prif blaid Brydeinig wedi ei wrthod yw sefydlu Senedd i Loegr.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ystyried atal ASau o du allan i Loegr rhag pleidleisio ar rai materion ond fe wnaeth y grŵp gorchwyl rybuddio y gallai arwain at greu "dosbarthiadau gwahanol" o aelodau.

Dyw'r llywodraeth heb ymateb i argymhellion y comisiwn a dywedodd Gweinidog y Swyddfa Cabinet Francis Maude na allai roi sylwadau ar yr adroddiadau hyd yn hyn.

Ychwanegodd: "Cawsom gomisiwn yn edrych ar yr hyn a elwir yn Gwestiwn West Lothian - mae'n fater sydd wedi peri pryder ers dyfodiad y sefydliadau newydd datganoledig. Syr William McKay wnaeth arwain comisiwn. Bydd yn cael ei astudio yn ofalus iawn.... "

Fformiwla Barnett

Un sydd wedi beirniadu'r awgrym y gallai ASau o Gymru golli'r hawl i bleidleisio ar faterion sy'n ymwneud a Lloegr yw AS Plaid Cymru Jonathan Edwards.

Mae'n dadlau bod pethau sydd yn edrych fel eu bod nhw ddim yn effeithio ar Gymru yn effeithio ar y wlad yn anuniongyrchol oherwydd bod faint o arian sy'n cael ei wario yn Lloegr yn effeithio ar faint mae Llywodraeth yn ei gael oherwydd Fformiwla Barnett.

"Fel rheol dyw ASau Plaid Cymru ddim yn pleidleisio ar faterion sydd ond yn effeithio ar Loegr beth bynnag," meddai.

"Ond fe rydym ni yn pleidleisio ar ddeddfwriaethau sydd ond yn effeithio ar Loegr os oes effaith ar Fformiwla Barnett sy'n effeithio ar faint o arian mae Llywodraeth Cymru yn ei gael."

"Bydd rhaid i bleidleisiau Lloegr-yn-unig fynd law yn llaw a diwygio'r fformiwla hon, fel arall byddai ASau Cymreig yn colli'r gallu i gael dylanwad ar faint o arian mae'r sefydliadau datganoledig yn ei gael.

"O dan y system anghymesur bresenol byddai pleidleisiau Saesneg-yn-unig yn arwain at bedwar dosbarth o ASau - byddai hyn yn arwain ar ddryswch llwyr ar bwy fydd yn cael pleidleisio yn ystod y pedwerydd darlleniad fydd yn dilyn.

"Byddai hyn yn siŵr o arwain at argyfwng cyfansoddiadol."

Straeon perthnasol