Gadawyd fi yn unig

  • 9 Gorffennaf 2013

Mae'n anodd gor-ddweud ynghylch cymaint y mae'r Toriaid yn mwynhau'r trafferthion diweddar rhwng Llafur ac undeb 'Unite'. Yn eu tyb nhw pe bai swyddfa ganolog y Ceidwadwyr wedi cynllunio ystorm berffaith ar gyfer Ed Miliband go brin y gallasai hi fod yn un well na hon. Efallai'n wir eu bod nhw'n iawn.

Serch hynny mae'r helynt wedi ei wreiddio mewn problem sy'n effeithio nid yn unig ar Lafur ond ar y pleidiau eraill hefyd. Y gostyngiad yn nifer y bobol sy'n dewis ymuno â phleidiau gwleidyddol yw honno.

Pe bai gan Lafur fil o aelodau yn Falkirk go brin y byddai'n bosib i unrhyw ymdrech honedig i hi-jacio'r enwebiad lwyddo. Gydag aelodaeth o gant a hanner ar y llaw arall mae'r demtasiwn yn amlwg, ac mae'n ymddangos yn ormod.

Ond mae niferoedd y Ceidwadwyr hefyd yn gostwng gan adael gwaddol oedrannus - gwaddol sy'n mynnu ei siâr o gig amrwd asgell dde sydd mae'n debyg yn troi stumogau rhai o'u harweinwyr.

Mae'r ffigyrau'n ysgytwol.

Mae tua un o bob cant o bobl y Deyrnas Unedig yn aelod o blaid. 4.7% yw'r cyfartaledd ar draws yr Undeb Ewropeaidd a dim ond Gwlad Pwyl a Latfia sydd â chanrannau is o'u pobl yn aelodau pleidiol na Phrydain.

Mae cyfanswm aelodaeth ein pleidiau yn sylweddol is nac aelodaeth yr RSPB neu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cofiwch, does dim un o'r pleidiau'n cynnig par o finociwlars na thocyn mynediad i aelodau newydd!

Mae pob math o esboniadau yn cael eu cynnig. Yn eu plith mae newidiadau cymdeithasol, apathi, y sgandal dreuliau a phoblogrwydd grwpiau ymgyrchu achos sengl. Mae 'na elfen o wirionedd ym mhob un o'r rheiny ond efallai mai newid cymdeithasol yw'r pwysicaf. Wedi'r cyfan pa angen y Ceidwadwyr Ifanc yn oes Zoosk a Grindr?

Ond mae 'na broblem arall i bleidiau sy'n chwennych grym sef bod yr union bethau a allai ddenu pobl i ymuno â phlaid yn debyg o elyniaethu trwch yr etholwyr. Gallwch weld yr un peth ym myd crefydd. Gall efengylwr lenwi ei gapel ond bychan yw ei apêl i'r rheiny y tu hwnt i'w braidd.

Beth sydd i wneud felly? Mae Falkirk yn awgrymu bod yn rhaid gwneud rhywbeth.

Ateb Ed Miliband yw ceisio sicrhau perthynas uniongyrchol rhwng y blaid a'r undebwyr hynny sy'n cyfrannu at gronfeydd gwleidyddol eu hundebau ac yn dewis cael ei hystyried fel cefnogwyr Llafur. Efallai y byddai hynny'n gweithio, efallai ddim.

Yn y pendraw os nad yw'r pleidiau yn llwyddo i ddatrys y broblem efallai na fydd 'na ddewis ond symud tuag at gyfundrefn debyg i un yr Unol Daleithiau lle mae etholwyr yn nodi eu plaid neu ddiffyg plaid wrth gofrestru.

Ar hyn o bryd does dim galw am hynny ym Mhrydain ond os ydy ffigyrau aelodaeth y pleidiau'n parhau i ostwng yn hwyr neu'n hwyrach fe fydd y gyfundrefn bresennol yn anghynaladwy.