Capten Caerdydd yn ymestyn ei gytundeb

  • 9 Gorffennaf 2013
Mark Hudson
Mae capten Caerdydd Mark Hudson wedi arwyddo cytundeb i aros gyda'r clwb tan 2015

Mae capten clwb pêl droed Caerdydd wedi cytuno i aros hefo'r tîm hyd at 2015.

Dywedodd y clwb bod Mark Hudson wedi arwyddo cytundeb i aros yn y brifddinas ar gyfer eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair.

Ymunodd yr amddiffynnwr gyda Chaerdydd yn 2009, a cafodd ei ddewis fel chwaraewr y tymor gan gefnogwyr y llynedd.

Dywedodd Hudson, sy'n 31 oed, ei fod yn rhyddhad sicrhau ei ddyfodol gyda'r clwb.

Ers dechrau ei gyfnod yn y brifddinas, mae Mark Hudson wedi chwarae dros 150 o weithiau i Gaerdydd, a sgorio 11 o goliau.

Meddai Hudson: "Rydw i wedi cyffroi ar ôl sicrhau fy nyfodol gyda Chaerdydd. Mae'n rhyddhad i arwyddo'r cytundeb yn gynnar yn yr haf, i ni fedru canolbwyntio ar bêl droed cyn y tymor newydd."

Dywedodd rheolwr y clwb, Malkay Mackay ei fod yn falch iawn bod Hudson wedi arwyddo cytundeb newydd.

"Mae'n hynod broffesiynol, mae'n arweinydd sy'n ysbrydoli eraill ac yn bleser i weithio hefo o ddydd i ddydd."

"Roedd ymestyn cytundeb ein capten yn un o flaenoriaethau'r clwb dros yr haf, ac rydyn ni'n sicr y bydd yn chwaraewr pwysig i ni yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf."