Llewod: 'Gêm fwya' eu bywyd'

  • 5 Gorffennaf 2013
Jamie Roberts Image copyright PA
Image caption Mae Jamie Roberts yn edrych ymlaen at y gêm fawr

Bydd Llewod Prydain ac Iwerddon yn ceisio ennill cyfres am y tro cynta' ers 16 blynedd.

Mae'r gyfres yn erbyn Awstralia yn gyfartal 1-1 wedi buddugoliaeth y Llewod o 23-21 yn y prawf cyntaf yn Brisbane a buddugoliaeth Awstralia yn yr ail brawf yn Melbourne buddugoliaeth Awstralia yn yr ail brawf yn Melbourne o 16-15.

Fore Sadwrn (amser ni) fe fydd 84,000 yn tyrru i Stadiwm ANZ yn Sydney yn barod am gêm allai fod yn llawn drama.

1997 oedd y tro diwethaf i'r Llewod ennill cyfres, a hynny yn Ne Affrica, ac mae'n rhaid mynd yn ôl i 1989 i'r tro diwethaf iddyn nhw ennill cyfres yn Awstralia.

Mae'r ffaith bod hyfforddwr y Llewod Warren Gatland o Seland Newydd wedi ychwanegu at benderfyniad Awstralia i ennill.

Cynyddu'r pwysau

Mae dewis Gatland i gynnwys 10 Cymro yn y tîm ar gyfer y prawf olaf wedi cynyddu'r pwysau ar ei ysgwyddau, gyda nifer yn y wasg yn feirniadol o hynny, yn enwedig y penderfyniad i adael Brian O'Driscoll allan o'r garfan.

Ond mae aelod arall o dîm hyfforddi'r ymwelwyr, Graham Rowntree, yn hyderus iawn y gall y tîm greu hanes.

"Fe welson ni ymateb Awstralia ar ôl iddyn nhw ein curo y penwythnos diwethaf. Roedd eu capten yn crio.

"Fe wnaethon nhw daflu popeth aton ni ac ennill o bwynt yn unig.

"Ni wnaethon ni chwarae'n dda, ac rydym yn gwybod hynny.

"Mae llawer mwy i ddod, ac mae'r bois yn benderfynol o ennill. Dyma gêm fwyaf ein bywydau fel hyfforddwyr a chwaraewyr."

Gydag anafiadau i Sam Warburton a Paul O'Connell, Alun-Wyn Jones fydd yn arwain y Llewod. Mae'n un o chwe chwaraewr fydd wedi dechrau'r tair gêm brawf.

'Cyffro pur'

Trwy gynnwys Jamie Roberts, sy'n dychwelyd o anaf, a Mike Phillips ymhlith yr olwyr, yr awgrym yw y bydd Gatland yn dibynnu ar fôn braich i gipio'r gyfres.

Mae sylwadau Roberts efallai'n crynhoi teimladau'r tîm cyn y diwrnod mawr.

"Heblaw rownd derfynol Cwpan y Byd, does dim llwyfan rygbi mwy na'r gêm i benderfynu cyfres y Llewod.

"Rhaid i chi fod yn gyffrous - peidio ag ofni, peidio bod yn nerfus.

"Mae gêm fel hon yn gyffro pur ac mae'n rhaid i chi fynd allan a mynegi eich hunan ar y cae, canolbwyntio a chwarae i'r eithaf o dan bwysau.

"Mae gyda ni gyfle euraid nawr. Alla' i ddim dweud faint dwi'n edrych ymlaen at y gêm."

Mae'r miloedd o bobl fydd yn dilyn y gêm ar BBC Radio Cymru fore Sadwrn yn cytuno gyda hynny yn sicr.

TÎM Y LLEWOD v. AWSTRALIA: Y TRYDYDD PRAWF; SYDNEY; ddydd Sadwrn, Gorffennaf 6:-

15. Leigh Halfpenny (Cymru)

14. Tommy Bowe (Iwerddon)

13. Jonathan Davies (Cymru)

12. Jamie Roberts (Cymru)

11. George North (Cymru)

10. Jonathan Sexton (Iwerddon)

9. Mike Phillips (Cymru)

1. Alex Corbisiero (Lloegr)

2. Richard Hibbard (Cymru)

3. Adam Jones (Cymru)

4. Alun-Wyn Jones (Cymru, capten)

5. Geoff Parling (Lloegr)

6. Dan Lydiate (Cymru)

7. Sean O'Brien (Iwerddon)

8. Toby Faletau (Cymru)

Eilyddion: Tom Youngs (Lloegr), Mako Vunipola (Lloegr), Dan Cole (Lloegr), Richie Gray (Yr Alban), Justin Tipuric (Cymru), Conor Murray (Iwerddon), Owen Farrell (Lloegr), Manu Tuilagi (Lloegr).