Gohirio penderfyniad ar safle ITV yng Nghroes Cwrlwys

  • 5 Gorffennaf 2013
Croes Cwrlwys
Mae ITV wedi bod ar y safle yng Nghroes Cwrlwys, Caerdydd, ers 1984.

Mae cyngor wedi gohirio penderfyniad ar godi cannoedd o gartrefi ar safle ITV.

Ar ôl ymweld â'r safle ddydd Iau dywedodd aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bro Morgannwg fod angen mwy o ymgynghori.

Roedd argymhelliad y dylid ailddatblygu'r safle, chwalu'r stiwdios a chodi 250 o dai.

Mae ITV wedi bod ar y safle yng Nghroes Cwrlwys, Caerdydd, ers 1984.

2024

Bydd eu trwydded yn cael ei hadnewyddu yn 2024 ac mae'r cwmni wedi cydnabod bod angen y cyfleusterau mwya' modern.

Yn Ebrill dywedodd yr ymgynghorydd eiddo Lambert Smith Hampton fod gofod yn y stiwdios wedi ei farchnata ers saith mlynedd ond bod yr ymateb wedi bod yn "wan".

"Am nifer o resymau dyw aros yn yr un safle ddim yn ymarferol yn fasnachol."

Mae'r cwmni wedi bod ar y safle ers 1984 ac yn bwriadu darlledu o safle newydd o Ddydd Gŵyl Dewi 2014 ymlaen.