Cyn gapten Cymru Onllwyn Brace wedi marw

  • 4 Gorffennaf 2013
Onllwyn Brace
Chwaraeodd Onllwyn Brace dros Gymru gyntaf yn 1956

Mae cyn gapten rygbi Cymru Onllwyn Brace wedi marw yn 80 oed.

Fe gynrychiolodd ei wlad bum gwaith a bu'n gapten dwywaith yn 1960 ac 1961.

Cafodd y dyn o Bontarddulais ei ddewis i chwarae dros ei wlad gyntaf yn 1956 pan gurodd Cymru'r Saeson o 8-3 yn Twickenham.

Chwaraeodd hefyd i dimau Casnewydd, Aberafan a Llanelli. Bu'n gapten ar y tîm hwnnw yn 1958-59 a hefyd yn ystod 1960-61.

Llwyddiannus

Cafodd yrfa lwyddiannus fel darlledwr gan olynu'r cyn chwaraewr a chapten Cymru a'r Llewod Cliff Morgan fel pennaeth chwaraeon BBC Cymru.

Roedd y ddau yn adnabod ei gilydd yn dda am eu bod wedi chwarae gyda'i gilydd, a Cliff Morgan oedd un o'r olwyr ar y cae pan chwaraeodd Onllwyn Brace dros Gymru yn ei gêm gyntaf.

Dywedodd y sylwebydd rygbi Gareth Davies, cyn faswr Cymru a Chaerdydd: "Roedd Onllwyn yn ddyn egniol a galluog ar y cae rygbi ac yn ystod ei yrfa.

"Fe awgrymodd y dylwn i ddilyn cwrs ol-raddedig ym Mhrifysgol Rhydychen.

"Y fi olynodd Onllwyn yn Bennaeth Chwaraeon BBC Cymru.

"Gall sefyllfa o'r fath fod yn heriol ond roedd yn barod ei gyngor bob tro.

"Roedd gydag e awch am rygbi a darlledu."

'Arloesol'

Dywedodd Pennaeth BBC Cymru Rhodri Talfan Davies iddo chwarae rôl flaenllaw pan oedd newidiadau yn digwydd ym myd darlledu byw.

"Mae pawb yn cofio amdano fel dyn oedd yn gweithio'n galed ac yn arweinydd arloesol oedd yn gosod safonau uchel ac yn cael ei barchu gan ei gydweithwyr.

"Doedd newid ddim yn ei ofni ac roedd yn arweinydd oedd yn gosod esiampl ac yn ysbrydoli ei gydweithwyr, yn union fel yr oedd o wedi gwneud pan oedd o allan ar y cae."