Tân Cwmbrân: 'Clywed sgrechfeydd'

Teulu Buckley
Bu farw tair cenhedlaeth o'r teulu Buckley yn y tân

Mae cymydog wedi disgrifio sut y clywodd sgrechfeydd dynes wrth i dân losgi drwy'r tŷ, gan ladd tri pherson.

Dywedodd Laura Williams wrth Lys y Goron Casnewydd ei bod hi wedi edrych trwy ffenest ei 'stafell a gweld mwg tywyll yn dod o'r tŷ drws nesaf.

Bu farw Kayleigh Buckley, 17 oed, ei merch chwe mis oed Kimberley, a'i mam 46 oed Kim yn y tân yn eu cartref yng Nghwmbrân ym mis Medi.

Mae Carl Mills, 29 oed, yn gwadu eu llofruddio.

'Help'

Roedd Kimberley'n ddall ac yn fyddar ac roedd hi newydd ddod yn ôl o'r ysbyty oriau cyn y tân.

Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Mills, tad Kimberley, wedi bod yn eiddigeddus o'r sylw roedd Kayleigh yn ei roi i'w merch wedi iddi gael ei geni'n gynnar.

Yn gynharach yn ystod yr achos, dywedodd ymchwilydd tân wrth y llys fod bocs ailgylchu wedi ei gynnau'n fwriadol gan arwain at dân a ddinistriodd gyntedd y tŷ.

Wrth roi tystiolaeth ddydd Iau disgrifiodd Laura Williams sut y clywodd ddynes yn gweiddi "help" wrth iddi geisio cysgu ar ôl bwydo ei babi.

"Roeddwn i'n meddwl mai pobl yn eu harddegau oedd yn chwarae'n wirion," meddai wrth y rheithgor.

"Yna clywais sgrechian a gweiddi yn dod o'r tu allan. Rwy'n meddwl mai'r un llais oedd e, ond gallai fod yn llais dynes arall. Yna clywais lais dyn.

"Roedd y ddynes yn gweiddi help. Gallwn i glywed llais dyn y tu allan yna clywais fenyw yn gweiddi fod y 'tŷ ar dân, galwch 999'.

"Gallwn ei chlywed hi a dynes yn sgrechian 'mae'n boeth, mae'n boeth, dwi'n llosgi'."

Tro diwetha'

Yn ôl Ms Williams roedd hynny am 3.30am a dyna oedd y tro diwethaf iddi glywed lleisiau'n dod o'r tŷ yng Nghoed Efa.

Dywedodd ei bod hi a'i gŵr wedi ceisio helpu ond ei bod hi'n rhy hwyr.

"Erbyn i mi fynd lawr y grisiau roedd [y mwg] yn llifo allan," meddai.

"Roedd mwg du yn dod o'r ffenestri a fflamau i fyny at y to. Gallech weld erbyn hynny fod y tân wedi mynd i mewn i'r llofft."

Mae'r achos yn parhau.