Cynulliad yn trafod newid trefn rhoi organau

  • 2 Gorffennaf 2013
Llawdriniaeth
Image caption Mae Llywodraeth Cymru eisiau gweld cynnydd yn nifer yr organau sy'n cael eu rhoi

Mae'r cynulliad yn trafod newidiadau i'r system roi organau yng Nghymru, gyda pleidlais yn disgwyl i gael ei chymryd yn hwyrach.

Os bydd y system newydd yn cael ei gymeradwyo bydd y llywodraeth yn tybio bod caniatâd ar gyfer rhoi organau wedi cael ei roi os nad yw unigolyn yn nodi ei wrthwynebiad i hynny.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd y Mesur Rhoi Organau yn achub bywydau drwy gynyddu'r nifer o organau sydd ar gael i'w defnyddio 25%.

Dadl rhai sy'n gwrthwynebu yw mai'r teulu ac nid y llywodraeth ddylai benderfynu os dylid cymryd organau gan rywun sydd wedi marw.

Newid y drefn

O dan y system bresennol mae angen i rywun arwyddo cofrestr er mwyn rhoi caniatâd i'w organau gael eu defnyddio.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau newid y drefn hon fel bod pawb yn cael eu hystyried yn fodlon i roi eu horganau os nad ydynt wedi nodi eu bod nhw ddim.

Ond mae rhai sy'n gwrthwynebu'r mesur yn galw ar y llywodraeth i newid y mesur er mwyn sicrhau fod teuluoedd yn cael llais yn y penderfyniad os nad yw'r ymadawedig wedi datgan eu bwriad.

Mae datganiad wedi ei arwyddo gan arweinwyr ffydd yn dweud y byddai'r methiant i wneud newidiadau i'r mesur yn medru achosi iddo fod yn "wrth-gynhyrchiol".

'Prinder'

Un sy'n sicr o blaid y mesur yw Angela Jones o Bwllheli - fe dderbyniodd hi aren newydd ddwy flynedd yn ôl.

"Mae wedi gwneud andros o wahaniaeth i fy mywyd i," meddai, "dwi'n teimlo mod i'n cael bod yn fam unwaith eto.

"Tan mae o'n digwydd i chi'n hun neu i aelod o'r teulu mae'n anodd sylwi pa mor bwysig ydi o.

"Mae yna gymaint o brinder."

Yn ôl Ms Jones, mae'r ffaith fod gan bobl yr hawl i eithrio'i hunain rhag bod yn rhoddwr yn ddigon i sicrhau na fydd organau'n cael eu rhoi heb ganiatâd.

"Ella fydd rhai yn dweud 'wel pa hawl sydd gan bobl i jest tynnu darn o gorff?' Ond mae'r opt out yna iddyn nhw ac mae angen gwneud yn saff bod pobl yn gwybod am hynny - ond i mi mae'n syniad da iawn."

Image caption Mae'r Archesgob Barry Morgan yn gwrthwynebu'r mesur newydd

'Feto'

Un sy'n gwrthwynebu'r mesur yw'r Archesgob Barry Morgan.

Sail ei wrthwynebiad yw y dylai'r penderfyniad i roi organau fod yn un mae person yn ei wneud yn ymwybodol, ac nad oes gan lywodraeth hawl i dybio'r penderfyniad hwnnw.

"Rwyf i o blaid trawsblannu organau ond dwi ddim o blaid y ddeddfwriaeth yma sydd yn rhagdybio caniatâd. Mae gen i wrthwynebiad i hynny yn sylfaenol.

"Ond wedi dweud hynny, mae'n bur amlwg rwy'n credu fod y ddeddfwriaeth yn mynd i gael ei basio a'r unig beth fyddwn i'n deud yw rwy'n gobeithio y bydd gwelliannau iddo.

"Os yw rhywun sydd yn marw wedi penderfynu eu bod nhw eisiau rhoi organau yna ddylai hynny ddigwydd, dim problem.

"Ac os oes rhywun sydd yn marw yn dweud dw i ddim eisiau neud, mae hynny'n glir.

"Ond pan mae pobl heb wneud unrhyw fath o ddatganiad rwy'n credu dylai perthnasau yn y fan yma gael rhyw fath o 'feto' os fynnech chi, yr hawl i wrthwynebu a dweud dwi ddim eisiau i hynny ddigwydd."

Image caption Bydd unigolion yn parhau i allu datgan eu parodrwydd i roi eu horganau drwy roi eu henw ar restr

Os yw'r mesur yn cael ei basio ddydd Mawrth ac yn derbyn cydsyniad brenhinol bydd y mesur yn dod i rym yn 2015.

Bydd dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i'w hyrwyddo cyn hynny fel bod pobl sy'n byw yng Nghymru'n ymwybodol beth sydd angen iddynt ei wneud os nad ydynt am weld eu horganau'n cael eu defnyddio.

Er mwyn cyflawni hyn bydd bron i £8 miliwn yn cael ei wario dros gyfnod o ddeng mlynedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.