Deifwyr yn nodi 60 mlynedd

  • 30 Mehefin 2013
Suddodd y Missouri ger Ynys Lawd Image copyright Other
Image caption Tarodd y Missouri yn erbyn creigiau ar Fawrth 6, 1886, wrth deithio o Boston yn America.

Bydd grŵp o 60 o ddeifwyr yn nodi pen-blwydd y corff sy'n rheoli'r gamp gyda pharti tanddwr ger arfordir Ynys Môn.

Fe fydd y deifwyr yn plymio i weddillion llong a suddodd yno yn 1886.

Mae llong Americanaidd y Missouri yn gorwedd ar wely'r môr ym Mhorth Dafarch yn ymyl Caergybi.

Mae'r digwyddiad yn un o gyfres i nodi pen-blwydd Cymdeithas Tanddwr Prydain (BSAC) yn 60 oed.

Dywedodd Ken Oakes o glwb tanddwr Sir y Fflint: "Rwy'n credu ein bod am ddathlu'r jiwbilî, ac mae dod at ein gilydd i ddeifio i'r Missouri yn ffordd ddelfrydol o nodi'r pen-blwydd.

Image copyright Chris Holden
Image caption Mae'r Missouri yn gorwedd ar wely'r môr yn ymyl Porth Dafarch ger Caergybi

"Mae'n syniad gwych ac fe ddylai fod yn brofiad i'w gofio. Gobeithio bydd y tywydd yn dda - fe ddylai'r golygfeydd o dan y môr fod yn odidog os yw'r dŵr yn glir."

Suddodd y Missouri yn ystod yr hyn gafodd ei ddisigrifio fel y storom eira waethaf mewn dau ddegawd ar Fawrth 6, 1886.

Aeth y llong stêm 3,000 tunnell i lawr ar ôl taro creigiau tua milltir o'r goleudy ar Ynys Lawd.

Roedd wedi teithio o ddinas Boston yn America gyda llwyth o bron 400 o wartheg.

Cafodd y criw i gyd eu hachub, ond boddodd tua 270 o'r anifeiliaid.

Dywedodd Steve Ellis, hyfforddwr clwb tanddwr Wrecsam, bod aelodau'r clwb yn awyddus iawn i ymuno â deifwyr o Gaer, Crewe, Gwynedd ac Ynys Môn ar gyfer y digwyddiad.

Dywedodd: "Fe fydd yn brofiad unigryw yn sicr ac mae pawb yn edrych ymlaen."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.