Undeb yr NAHT yn pryderu am recriwtio prifathrawon

Dysgu dosbarth
Image caption Dywed NAHT Cymru bod pwysau gwaith yn un rheswm pam bod athrawon ddim eisiau bod yn brifathrawon

Mae nifer o siroedd Cymru wedi gorfod ail-hysbysebu swyddi prifathrawon yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Yn ôl Anna Brychan o NAHT Cymru, pwysau gwaith a'r diffyg hyfforddi sydd ar fai am hyn.

Mae hi hefyd wedi dweud ei bod hi'n fwy o broblem mewn ysgolion Cymraeg ac ysgolion ffydd.

Daw ei sylwadau yn dilyn ymchwil Newyddion Ar-lein i gael gwybod faint o swyddi prifathrawon fu'n rhaid eu hail-hysbysebu yn y pum mlynedd ddiwethaf yng Nghymru.

Amrywio

Does yna ddim ffigyrau cenedlaethol ond mae rhai cynghorau yn casglu'r manylion.

O'r 22 awdurdod cafwyd ymateb llawn gan 13 ac mae'r ffigyrau yn amrywio o gyngor i gyngor.

Yng nghyngor Gwynedd bu'n rhaid ail-hysbysebu 22 o swyddi prifathrawon.

Cafodd 19 o swyddi eu hail-hysbysebu gyda Chyngor Powys, 11 o swyddi yng Nghaerdydd a 10 yn Sir Benfro.

'Mwy dyrys'

Dywedodd Anna Brychan o NAHT Cymru ei bod hi'n ymddangos fod y broblem yn waeth nag erioed.

"Mae'n anodd gwybod heblaw bod gyda ni niferoedd ac ystadegau cyson flwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Ond, yn sicr, mae yn bryder sy'n cael ei ddatgan gan ein haelodau yn gynyddol, sy'n awgrymu ein bod ni 'n delio gyda phroblem fwy dyrys nag yn y gorffennol o bosib."

Abertawe oedd y cyngor gyda'r ffigwr isaf sef un ond roedden nhw'n pwysleisio bod ysgolion hefyd yn medru recriwtio ac ail-hysbysebu prifathrawon eu hunain.

Roedd yn rhaid ail-hysbysebu'r swydd i fod yn brifathro fwy nag unwaith mewn rhai achosion.

Gwaed newydd

Gyda chyngor Wrecsam doedd dim gwybodaeth ar gael ar gyfer ail-hysbysebu tan Ebrill 2011. O'r cyfnod hwnnw mae dwy o swyddi wedi eu hail-hysbysebu.

Mae yna ystadegau ar gyfer oedran penaethiaid mewn ysgolion a thra'n dweud bod y sefyllfa yn waeth yn Lloegr na Chymru dywedodd Anna Brychan y byddai angen gwaed newydd ymhen ychydig gan fod nifer ar fin ymddeol.

"Mae yna bryder wedi bod ers sawl blwyddyn bod 'na gnwd o benaethiaid reit fawr ar fin ymddeol ac mi fyddwn ni yn edrych am bobl i gamu mewn i'w hesgidiau nhw yn y dyfodol cymharol agos."

Dim ond ffigyrau ar gyfer y sector cynradd oedd gan Gyngor Ceredigion a chafodd pedair o swyddi eu hail-hysbysebu yn y cyfnod dan sylw.

Roedd gan Gyngor Pen-y-bont rywfaint o ffigyrau ar gyfer ysgolion uwchradd yn unig.

Mae saith ysgol uwchradd yn y sir a chafwyd ymateb i'r cais gan bump. O'r rhain ail-hysbysebwyd mewn dwy ysgol uwchradd.

Doedd y ffigyrau ddim ar gael gan Gyngor Rhondda Cynon Taf na Chastell-Nedd Port Talbot.

Newid

Mae bod yn bennaeth ysgol yn wahanol i'r sefyllfa 10 mlynedd yn ôl gan fod y cyfrifoldebau erbyn hyn yn fwy eang.

Hefyd mae problemau cymdeithasol yn cael eu hamlygu gan ddisgyblion mewn cyfnod economaidd anodd a'r ffactorau yma yn un o'r rhesymau pam fod dirprwyon ddim am fod yn brifathrawon.

"Mae modd dadlau bod plant yn diodde' yn fwy na neb yn hynny o beth," meddai Anna Brychan.

"Mae angen cefnogaeth ar y plant yn hyn o beth ac mae angen gweithio yn agos mewn nifer o achosion gyda'r gwasanaethau iechyd a'r gwasanaethau cymdeithasol.

"Yn sicr, mae'r rhain yn bwysau mawr ar ysgolion a hynny yng nghyd-destun llai a llai o gyllideb dros y blynyddoedd nesaf i fedru dod o hyd i'r math o wasanaethau fydd angen ar y plant."

'Edrych eto'

Image copyright Getty Images
Image caption Mae angen gwella hyfforddiant ar gyfer prifathrawon, meddai'r undeb

I fod yn bennaeth rhaid i athrawon gael cymhwyster arbennig, y CPCP.

Dywedodd Anna Brychan fod angen datblygu sgiliau athrawon yn gynnar yn eu gyrfa.

"Dw i'n credu hefyd fod yn rhaid edrych eto ar y sgiliau a'r datblygiad proffesiynol rydyn ni'n cynnig i benaethiaid unwaith maen nhw yn eu swydd achos rydyn ni'n edrych erbyn hyn ar fodelau efallai ychydig yn wahanol - o fod yn bennaeth ar fwy nag un ysgol, er enghraifft.

"Yn y cyd-destun hwnnw efallai bod angen sgiliau a hyfforddiant gwahanol ar gyfer y rôl honno."

Dywedodd y dylai'r cymhwyster CPCP gael ei deilwra yn well fel bod mwy yn cael eu hyfforddi yn yr ardaloedd a'r sectorau lle mae yna brinder prifathrawon.

Prinder

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod bod yna lai o benaethiaid mewn rhai llefydd yng Nghymru a'u bod yn cadw golwg ar y sefyllfa.

"Er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion recriwtio rydym yn parhau i adolygu'r nifer gyffredinol o leoedd sydd ar gael ar gyfer asesiad CPCP," meddai llefarydd.

"Byddem hefyd yn ystyried targedu meysydd lle mae prinder ar yr amod bod hwn yn cael ei gyfiawnhau gan ddata cynllunio'r gweithlu lleol manwl.

"Mae arweinyddiaeth gref yn hanfodol i lwyddiant ein hysgolion ac rydym wedi ymrwymo i gryfhau'r gallu i arwain yn y system drwy hyrwyddo datblygu arweinyddiaeth gydol gyrfa.

"Mae gan awdurdodau lleol yr opsiwn o sicrhau ffederasiwn o ysgolion o dan un pennaeth gweithredol fel yr argymhellwyd gan Hill."

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'n bwysig bod yna gydweithio ar draws y sector er mwyn sicrhau bod unigolion talentog yn cael eu dewis ar gyfer y swydd.

"Bydd angen i Lywodraeth Cymru, undebau athrawon a llywodraeth leol weithio gyda'i gilydd ar hyfforddiant a phenodi i sicrhau bod Cymru nid yn unig yn medru llenwi swyddi prifathrawon ond bod y bobl sydd yn cael eu dewis yn medru cynnig y lefel o arweinyddiaeth sydd ei hangen er mwyn gwella safonau addysg yng Nghymru," meddai.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.