Gêm o ddau hanner

Lloegr yw pencampwyr dan 20 y byd
Lloegr yw pencampwyr dan 20 y byd

Lloegr yw pencampwyr dan 20 y byd wedi buddugoliaeth o 23 - 15 yn erbyn Cymru yn Stade de la Rabine yn Vannes.

Roedd Cymru ar y blaen o 12 pwynt erbyn yr egwyl, wedi dau gais gan Ashley Evans. Ond manteisiodd Lloegr ar eu pac cryf i frwydro yn ôl yn yr ail hanner.

Sgoriodd Jack Nowell a Sam Hill geisiau yn yr ail hanner, ac roedd dwy gic gosb gan Henry Slade yn ddigon i roi buddugoliaeth i Loegr am y tro cyntaf.

Dechrau addawol

Dyma oedd y rownd derfynol gyntaf rhwng dwy wlad o hemisffer y gogledd, ac roedd y dechrau yn addawol iawn i Gymru.

Dechreuodd Ashley Evans symudiad gan redeg drwy amddiffyn Lloegr a llwyddodd y blaenwyr i wthio ymlaen. Pan ddaeth y bel yn ôl i Sam Davies, rhoddodd gic uchel i'r gornel lle roedd Ashley Evans yn aros i groesi'r linell.

Sgoriodd ei ail gais o fewn chwarter awr pan gipiodd y bêl gan olwyr Lloegr, a chroesi'r linell o dan y pyst.

Roedd gan Loegr gyfle i sgorio ar ddiwedd yr hanner cyntaf, ond penderfynodd y dyfarnwr bod Dominic Barrow wedi cicio chwaraewr arall ar y llawr, a cafodd gerdyn melyn cyn yr egwyl.

Er y dechrau da, doedd Cymru methu manteisio ar y dyn ychwanegol yn yr ail hanner, ac yn fuan ar ôl i Barrow ddychwelyd i'r cae, aeth y cefnwr Jack Nowell dros y llinell i Loegr.

Roedd pwysau y Saeson yn ddi-dor, gydag ail gais Lloegr yn dod gan Sam Hill ychydig wedi awr o chwarae.

Doedd ymdrech Cymru ddim yn ddigon cryf i dorri amddiffyn Lloegr, ac roedd dwy gic gosb hwyr gan Henry Slade yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Siomedig, ond balch

Ar ôl y gêm, dywedodd hyfforddwr Cymru, Danny Wilson fod y chwaraewyr wedi bod yn wych, ac er iddo fod yn hynod siomedig, roedd yn falch iawn ohonynt.

"Roedd Lloegr llawer rhy gryf ym mhob rhan o'r cae yn yr 20 munud olaf heddiw, ac roedden nhw'n haeddu ennill."

Roedd capten Cymru, Ellis Jenkins hefyd yn llawn clod i'r pencampwyr:

"Fe gawsom ni y dechrau perffaith heddiw, ond mae Lloegr wedi dangos pam mai nhw ydy'r tîm gorau yn y byd. Mae'n nhw'n haeddu ennill."

Tîm Cymru dan 20 v Lloegr dan 20

Jordan Williams (Scarlets/Llanelli)

Ashley Evans (Gweilch/Pen y Bont)

Steffan Hughes (Scarlets/Llanelli)

Jack Dixon (Dreigiau)

Hallam Amos (Dreigiau/Casnewydd)

Sam Davies (Gweilch/Abertawe)

Rhodri Williams (Scarlets/Llanymddyfri)

Gareth Thomas (Scarlets/Quins Caerfyrddin)

Elliot Dee (Dreigiau/Bedwas)

Nicky Thomas (Gweilch/Abertawe)

Carwyn Jones (Scarlets/Caerfyrddin)

Rhodri Hughes (Gweilch/Abertawe)

Jack Jones (Gweilch/Rovigo)

Ieuan Jones (Dreigiau/Casnewydd)

Ellis Jenkins (capt, Gleision/Caerdydd).