Achub dyn drwy ddefnyddio ap

Wyddfa
Cafodd Tîm Achub a Chwilio De Eryri hefyd eu galw allan

Cafodd dyn ei achub ar ôl mynd ar goll ar Foel Yr Hydd, Tanygrisiau neithiwr trwy ddefnyddio ap newydd.

Roedd y dyn 33 oed o ardal Lerpwl wedi mynd ar goll a wedi bod yn cerdded am 11 awr pan ffoniodd am gymorth am 7:19pm.

Fe wnaeth Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn ei ddarganfod wedi iddynt ddefnyddio er mwyn darganfod ei leoliad.

Mae'r ap ffôn clyfar yn gweithio drwy yrru neges destun i'r person sydd ar goll - pan fydd y person yn ei ddarllen a chlicio ar ddolen ynddo mae'r ffon yn dweud wrth y tîm achub beth yw lleoliad y dyn mewn hydred a lledred.

Cafodd y dechnoleg ei ddatblygu gan Russ Hore o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen.

Mae'n debyg mai newid annisgwyl yn y tymheredd wnaeth achosi i'r dyn golli ei ffordd.