Damwain: Oedi ar yr M4 yng Nghasnewydd

  • 20 Mehefin 2013

Mae'r gwasanaethau brys yn delio gyda damwain fawr ar draffordd yr M4 yng Nghasnewydd fore Iau.

Mae un lon wedi ei chau i gyfeiriad y dwyrain ac mae yna dagfeydd traffig ar ôl i chwe cherbyd daro yn erbyn ei gilydd ger cyffordd 26, Ffordd Malpas.

Y gred ydi bod un person wedi ei anafu.