Damwain: Menyw yn cael ei lladd

Heddlu
Image caption Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddamwain ffordd ger Maes Awyr Caerdydd

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddamwain ffordd ger Maes Awyr Caerdydd nos Fercher.

Fe darodd car Vauxhall Corsa gwyrdd a motobeic Yamaha yn erbyn ei gilydd ar ffordd osgoi'r Rhws ychydig cyn 11pm.

Roedd y motobeic yn teithio i'r dwyrain i gyfeiriad Y Barri tra roedd y car yn teithio i gyfeiriad Sain Tathan.

Bu farw'r fenyw a oedd yn reidio'r motobeic o'i hanafiadau.

Tua'r un pryd a'r ddamwain roedd nifer o weithwyr yn gadael safle trwsio awyrennnau British Airways gerllaw ar ddiwedd eu shifft.

Mae'r heddlu yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn dystion i'r ddamwain neu a welodd y motobeic yn teithio rhwng y ddau gylchdro ger y maes awyr.

Mae'n bosibl i unrhywun sydd â gwybodaeth ynglŷn â'r digwyddiad gysylltu gyda Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Taclau ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.