Morgannwg yn curo Swydd Gaerlŷr o 34 rhediad

  • 19 Mehefin 2013
Clwb Criced Morgannwg
Sgoriodd Darren Stevens 119 i rwystro Morgannwg

Mae Morgannwg wedi curo Swydd Gaerlŷr o 34 rhediad gan roi siawns go iawn iddyn nhw gyrraedd rownd gyn-derfynol cystadleuaeth Yorkshire Bank 40.

Cafodd Mark Wallace 61 a Chris Cooke 55 wrth i Forgannwg lwyddo i gael 265 am wyth yn eu 40 pelawd.

Dechreuodd y tîm cartref yn dda gyda Josh Cobb a Niall O'Brian yn llwyddo i gael 60 mewn naw pelawd.

Ond fe gafon nhw eu bowlio allan am 231 gydag un bel o'r batiad ar ôl i chwarae.

Llwyddodd Mike Hogan i sicrhau tair wiced am 38 a hawliodd Jim Allenby ddau am 36.

Hon oedd drydedd buddugoliaeth Morgannwg y tymor hwn ac maen nhw nawr yn drydydd yng Ngrŵp C.

Sgôr terfynol:

Morgannwg 265-8 (40 pelawd) yn curo Swydd Gaerlŷr 231 (40 pelawd) o 34 rhediad