Teledu lleol: Ail gyfnod y broses yn dechrau

Teledu Lleol
Mae'n bosibl y bydd gwylwyr mewn rhai ardaloedd yn gallu gweld gwasanaethau teledu lleol erbyn diwedd 2014

Mae'r broses o gynnig am drwyddedau teledu lleol ym Mangor, Yr Wyddgrug ac Abertawe yn dechrau ddydd Mercher.

Dyma ail gyfnod y broses sy'n cael ei rheoli gan OFCOM, rheoleiddiwr y diwydiant darlledu. Yn y cyfnod cyntaf llwyddodd cwmni Made in Cardiff i sicrhau trwydded i ddarparu gwasanaeth teledu lleol yng Nghaerdydd.

Cafodd 19 o drwyddedau eu dyfarnu yn y cyfnod cyntaf ar ôl i OFCOM gael yr hawl statudol i gynnig trwyddedau teledu lleol.

2014

Ym mis Ionawr 2013 enillodd Comux UK y drwydded i sicrhau bod pob gorsaf deledu leol yn cael eu darlledu ar deledu daearol digidol (DTT).

Mae OFCOM wedi penderfynu cynnig y trwyddedau yn raddol er mwyn lleihau'r bwlch amser rhwng cyflwyno ceisiadau a dyfarnu'r trwyddedau i'r cwmniau llwyddiannus.

Medi 11 2013 yw'r dyddiad cau i'r cwmniau sydd â diddordeb mewn gwneud cais i ddarparu gwasanaeth teledu lleol ym Mangor, Yr wyddgrug ac Abertawe.

Mae'n bosibl y bydd sianelau teledu lleol yn yr ardaloedd yma ar yr awyr erbyn diwedd 2014.

Yn ogystal â darlledu ar DTT, mae OFCOM yn rhagweld y gallai rhai o'r sianelau fod â diddordeb mewn cynnig eu gwasanaethau ar loeren, cebl ac arlein.