Damwain: Gweithiwr yn yr ysbyty

  • 18 Mehefin 2013
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 2.42pm. Image copyright Arall
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 2.42pm.

Aed ag aelod staff i'r ysbyty oherwydd damwain ar do'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 2.42pm.

Dywedodd llefarydd ar ran yr amgueddfa: "Roedd gweithiwr yr adran adeiladau'n ymgymryd â gwaith cynnal a chadw pan gafodd ei anafu.

"Bydd ymchwiliad llawn."

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans iddo anafu ei ben, ei gefn a'i goesau.

Yn ôl y Gweithgor Iechyd a Diogelwch: "Rydym yn casglu gwybodaeth cyn penderfynu a oes angen ymchwilio ymhellach."