Cymro ifanc wedi marw ar wyliau

  • 18 Mehefin 2013
Map o'r ardal
Roedd Shaun Liam Davies ar ei wyliau yn Sunny Beach ym Mwlgaria

Mae Cymro 19 oed o Lanelli wedi marw tra ar ei wyliau gyda'i ffrindiau ym Mwlgaria.

Cwympodd Shaun Liam Davies o falconi 10fed llawr ei westy yn Sunny Beach.

Cyhoeddwyd ei fod yn farw yn y fan a'r lle.

Roedd yn gweithio i gwmni Macdonald's ym Mharc Manwerthu Trostre.

'Trist iawn'

Dywedodd ei reolwr Ann Jones: "Mae'n newyddion trist iawn. Roedd Shaun yn fachan poblogaidd iawn ... rydyn ni'n trial cefnogi ein staff ni ar adeg anodd iawn."

Mae nifer o deyrngedau wedi eu rhoi, gan gynnwys rhai ar Facebook.

"Mae'n sioc fawr iawn," meddai ei ffrind Alison White.

"Pam taw dim ond y rhai da sy'n marw'n ifanc?

"Roedd ei wên a'i bersonoliaeth yn goleuo stafell. Fydd y byd ddim yr un lle hebddo fe."

'Cefnogaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Thomas Cook: "Fe allwn ni gadarnhau marwolaeth drychinebus Mr Davies tra ar wyliau ym Mwlgaria.

Roedd Shaun ar ei wyliau gyda'i ffrindau

"Rydym yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau ac mae ein tîm yn yr ardal yn rhoi cefnogaeth lawn ar yr adeg anodd hon.

"Mae ein staff hefyd yn cydweithio ag awdurdodau lleol a Llysgenhadaeth Prydain."

Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor enw Mr Davies a dywedon nhw fod ei deulu wedi cael gwybod am y farwolaeth.