Dyfodol i ffatri gaws

  • 14 Mehefin 2013
Caws Mozzarella
Mae'r ffatri'n cynhyrchu caws mozzarella

Mae ffatri gaws oedd dan fygythiad yn Orllewin Cymru wedi cael ei phrynu.

Roedd y cwmni Saputo sydd a'u pencadlys yng Nghanada wedi dweud bod y ffatri yng Nghastell Newydd Emlyn yn mynd i gau os nad oedd prynwr yn dod i'r fei.

Ond mae cyhoeddiad wedi dod wythnos yma fod cwmni arall wedi prynu'r ffatri sef Dairy Partners of Wales.

Caws mozzarella sy'n cael ei gynhyrchu ar y safle.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Rhodri Glyn Thomas sydd yn cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Mae parhau i weld gwaith cynhyrchu llaethdy yng Nghaerfyrddin yn newyddion da i'r gweithwyr, yr economi leol ac i'r sector amaethyddiaeth ehangach.

"Tra ein bod ni yn disgwyl manylion camau nesaf y perchnogion newydd, fe fydden i yn hoffi sicrhau unrhyw weithiwyr sydd wedi eu heffeithio gan newidiadau posib fod fy nrws wastad ar agor os ydyn nhw angen cymorth neu gyngor."