Pryderon am ddyfodol ariannol Tafwyl

  • 13 Mehefin 2013
Castell Caerdydd Image copyright Menter Caerdydd
Image caption Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw yn rhoi grant o £20,000 i Tafwyl eleni

Mae nifer o Gymry Cymraeg adnabyddus wedi llofnodi llythyr at gyngor Caerdydd yn gofyn iddynt ail ystyried toriadau i wasanaethau Cymraeg.

Mae cynnwys y llythyr yn mynegi pryder bod cyllideb menter iaith y brifddinas wedi ei chwtogi a dyfodol gŵyl Tafwyl ddim yn sicr.

Fe ddywedodd y cyngor ddechrau'r flwyddyn ei fod yn ystyried torri'r cymhorthdal yr oedden nhw wedi bod yn rhoi i'r ŵyl Gymraeg. Yr angen i wneud arbedion oedd y rheswm medden nhw.

Ond fe benderfynodd Llywodraeth Cymru rhoi grant o £20,000 i Tafwyl eleni.

Atal ffyniant iaith

Noda'r llythyr bod y Gymraeg wedi ennill tir yng Nghaerdydd a bod twf addysg Gymraeg yn yr ardal yn brawf o hynny:

"Mae'n ein gofidio felly bod y Cyngor wedi mabwysiadu safbwynt nad yw'n adeiladu ar agweddau cadarnhaol y blynyddoedd diwethaf nac ychwaith yn adlewyrchu barn llawr gwlad tuag at yr Iaith.

"Crisialwyd hynny yn y penderfyniad i dorri'n gyfan gwbl gyllideb Tafwyl nôl ym mis Chwefror ynghyd â thoriad o 10% yng nghyllideb graidd Menter Caerdydd.

"Gan ystyried mai 0.04% yn unig o gyllideb y Cyngor, sydd wedi'i glustnodi i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, rydym o'r farn fod y toriadau nid yn unig yn afresymol ac anghymesur, ond yn tanseilio gallu'r iaith i ffynnu."

Mae enwau megis Jim Parc Nest, Archdderwydd Cymru, y cyn Aelod Cynulliad Owen John Thomas, y gantores Heather Jones a'r awdur Jon Gower wedi llofnodi'r llythyr.

Cell Caerdydd o'r mudiad pwyso Cymdeithas yr Iaith sydd wedi ei gydlynu. Mae'r mudiad yn dweud bod Tafwyl wedi cael ei thrin yn wael gan y cyngor a bod angen sicrwydd ar gyfer yr ŵyl i'r dyfodol.

Bydd yr ŵyl flynyddol a gychwynnodd yn 2006 yn cychwyn eleni yn y brifddinas ddydd Sadwrn.

Dywed y llythyr bod angen i'r cyngor ail ystyried eu blaenoriaethau a rhoi arian digonol i'r Gymraeg: "Dyma gyfle i ddangos i'r byd fod dwy iaith swyddogol yng Nghymru, a bod Caerdydd ei phrifddinas yn lladmerydd balch dros hynny.

"Gofynnwn felly i Gyngor Caerdydd ail-sefydlu ei grant i Dafwyl a gwrth-droi ei doriadau i Fenter Caerdydd fel bod modd gosod seiliau cadarn i'n hiaith unigryw genedlaethol yn y brifddinas."

Y Gymraeg yn 'bwysig'

Mae'r cynghorydd Huw Thomas, sydd â chyfrifoldeb dros ddiwylliant, chwaraeon a hamdden wedi dweud bod y Gymraeg yn "flaenoriaeth bwysig" i'r awdurdod lleol. Dywed ef fod y cyngor yn dangos hyn trwy fuddsoddi mewn ysgolion Cymraeg, cynnig darpariaeth hamdden yn Gymraeg am y tro cyntaf a gwasanaethau cyfieithu mewn cyfarfodydd cyngor yn y Gymraeg.

Wrth ymateb i'r pryderon am ddyfodol Tafwyl dywedodd Huw Thomas: " Gwnaethom ei gwneud yn gwbl eglur yn ystod y broses gyllidebu eleni fod Tafwyl yn ŵyl bwysig a phoblogaidd ac rydym am i hyn barhau.

"Drwy weithio'n agos â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru gwnaethom lwyddo i sicrhau cyllid i'r ŵyl ddiwylliannol boblogaidd hon sy'n hyrwyddo ein hannwyl iaith.

"Fel Cyngor, rydyn ni'n rhoi llawer o gymorth i sicrhau bod y digwyddiad yn un llwyddiannus, ac mae'n bleser gennym gynnig Castell Caerdydd fel lleoliad i ddigwyddiad y penwythnos, sy'n gefndir addas i ddigwyddiad sy'n dathlu diwylliant ac iaith Cymru."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.