Ymchwilio i ddamwain beic modur

  • 11 Mehefin 2013

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl damwain ffordd toc wedi hanner nos nos Lun.

Cafodd gyrrwr y beic modur Suzuki, dyn yn ei bedwardegau, anafiadau allai beryglu bywyd ac mae'n parhau yn yr ysbyty.

Roedd y gwrthdrawiad ar Stryd Higher Berse yn Wrecsam.

Dywedodd y Cwnstabl Andrew Pritchard: "Er bod y ddamwain mewn llecyn anghysbell rwy'n obeithiol fod yna lygad dystion wedi gweld rhywbeth."

Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu'r Gogledd drwy ffonio 101 neu'r rhif Taclo'r Tacle 0800 555 111 gan roi'r cyfeirnod RC13090759.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.