Meithrin talent ym maes technoleg gwybodaeth

  • 13 Mehefin 2013
Disgyblion yn Abertawe'n dysgu trwy gynllun LIFE
Image caption Mae'r disgyblion hyn yn Abertawe yn dysgu'i gilydd sut i ddefnyddio tabledi trwy raglen LIFE

Mae arbenigwr yn y maes cyfrifiadurol yn credu bod gan Gymru gyfle i 'lenwi bwlch' yn y farchnad dechnoleg gwybodaeth, allai roi hwb sylweddol i economi'r wlad yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae Simon Pridham, pennaeth gweithredol Ysgol Gynradd Casllwchwr, Abertawe, yn rheoli prosiect LIFE, sy'n edrych ar sut y gall cyfrifiaduron drawsnewid addysg mewn ysgolion.

Ffurfiwyd y rhaglen yn dilyn llwyddiant prosiect tebyg yn Ysgol Casllwchwr, pan ddatblygodd sgiliau darllen plant Blwyddyn Chwech o naw i 13 oed ar gyfartaledd.

Mae 'na ddwy elfen i raglen LIFE, sef edrych ar sut all technoleg drawsnewid y ffordd mae plant yn cael eu dysgu, ac annog cydweithio rhwng yr ifanc a phobl hŷn o fewn cymdeithas.

Yn ôl Mr Pridham, mae gan Gymru'r potensial i greu cenhedlaeth o bobl sy'n creu meddalwedd o bob math ar gyfer y farchnad ryngwladol.

Creu cynnwys

"Ar hyn o bryd dyw ysgolion ond yn dysgu plant sut i ddefnyddio meddalwedd - nid sut i greu cynnwys neu feddalwedd," meddai.

"Ond gyda dyfodiad apps a dyfeisiau symudol, mae 'na farchnad enfawr ar gyfer pobl all greu apps i'w hallforio.

"Ar y funud ry'n ni'n mewnforio arbenigedd o wledydd fel De Corea ac America. Ond os allwn ni hybu oddi fewn ein cenedl ein hunain, o'n dinasoedd ac o gefn gwlad, yna bydd gennym weithlu all hybu'r economi o fewn Cymru."

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru a BT yn cydweithio ar raglen i ddarparu band eang cyflym iawn ar raddfa genedlaethol, gyda'r nod o sicrhau fod gan 96% o gartrefi a busnesau Cymru fynediad i'r gwasanaeth erbyn 2016.

"Mae'n fuddsoddiad enfawr ar draws Cymru", meddai Mr Pridham, "a bydd yn dod â rhagor o fuddsoddiad gan fusnesau. Os byddwn ni'n gallu dweud wrthyn nhw bod gennym yr isadeiledd, wifi, 4G a band eang cyflym iawn, yna'n amlwg fe fydd hi'n haws denu buddsoddiad i'r ardaloedd hynny ble roedd cwmnïau a diwydiannau'n gyndyn i ddod iddynt o'r blaen."

Partneriaethau

Mae Mr Pridham yn credu'n gryf bod angen datblygu'r cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant os am elwa i'r eithaf o'r cyfleoedd technolegol yng Nghymru.

Meddai: "Rwy'n credu fod gan ddiwydiant rôl i'w chwarae hefyd...Fel ysgolion, mae'n rhaid i ni fynd allan yna a chwilio am bartneriaid diwydiant - ond fe ddylai diwydiannau hefyd chwilio am bartneriaid ymhlith ysgolion,

"Os gallwn ni elwa o'r arbenigedd sydd ganddynt, yna bydd yn agor drysau o ran gyrfaoedd.

"Rwy'n gweithio ar hyn o bryd gyda dau gwmni - Box UK, sydd ag enw da drwy'r byd am ddatblygu meddalwedd ac apps - a Tinopolis.

"Petai modd sefydlu rhwydwaith fyddai'n caniatáu diwydiannau ac addysgwyr i ddod ynghyd i ffurfio partneriaethau, yna rwy'n credu y bydd yr isadeiledd yn iawn - yn sicr, mae'r dalent gennym ni yma yng Nghymru."

50 biliwn

Cyfeiriodd Mr Pridham at y ffaith bod 90% o ddata presennol y byd wedi'i greu yn y ddwy flynedd ddiwetha', a'r darogan y bydd 'na 50 biliwn o ddyfeisiadau symudol wedi'u cysylltu i'r we erbyn 2025 - sy'n golygu saith teclyn i bob unigolyn ar y blaned.

Image copyright other
Image caption Mae Simon Pridham yn gobeithio bydd modd ymestyn prosiect LIFE i bob rhan o Gymru yn y dyfodol

"Ar y funud, mae rhai ysgolion uwchradd yng Nghymru a'r DU yn tynnu ffonau symudol oddi ar blant wrth iddynt gyrraedd yr ysgol - dyw'r peth ddim yn gwneud synnwyr.

"Mae'n rhaid i ni hyfforddi'n plant ifanc sut i greu cynnwys ar gyfer y dyfeisiadau hyn. Hefyd, mae'n rhaid addysgu'r 'cenedlaethau coll' - hynny ydy, pobl o 20 oed i fyny - gan nad ydyn nhw wedi arfer cymaint â'r dyfeisiadau.

"Fel rhan o brosiect LIFE, 'da ni'n defnyddio plant 10 ac 11 oed i hyfforddi rhai hyn. Gallech chi gael unigolyn 19 oed sy'n gallu defnyddio dyfais symudol i fynd ar y we ac ati, ond mae gennych blentyn chwech oed sy'n ei ddefnyddio i greu cynnwys."

Mae Mr Pridham yn rhan o grŵp llywio, sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar ddefnydd technoleg gwybodaeth mewn ysgolion.

Ym mis Gorffennaf, bydd y grŵp yn cyflwyno 12 o argymhellion i'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews, ac mae Mr Pridham yn hyderus "fod 'na newidiadau mawr ar y ffordd".

Gosod esiampl

Ychwanegodd y gallai Cymru ddysgu oddi wrth arfer dda mewn gwledydd eraill, megis Estonia neu wledydd Sgandinafia.

"Yn Nenmarc, er enghraifft, mae un dre' wedi rhoi iPad i bob aelod o'r gymuned - rhyw 40,000 dyfais i gyd. Mae'n gynnar yn y broses - mae'n rhaglen 10 mlynedd - ond mae'n dangos sut mae gwledydd eraill yn meddwl mewn ffyrdd creadigol.

"Ond hoffwn i weld fod pobl yn edrych tuag at Gymru am syniadau, achos ry'n ni'n gwneud llawer o bethau'n gywir.

"Rwy'n credu'n bod ni wedi bod yn edrych ar wledydd eraill yn rhy hir. Ond y tro hwn rwy'n credu y byddwn ni'n creu ein hunaniaeth ein hunain, yn creu ein brand ein hunain yma yng Nghymru.

"Rwyf wir yn hyderus fod gennym gyfle unigryw, mae'r amser yn iawn yng Nghymru nawr i greu rhywbeth arbennig iawn."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.