Cyflogau: Cytuno i sefydlu panel

  • 6 Mehefin 2013
Arian
Rhaid i Lywodraeth Cymru gael cefnogaeth rhai o aelodau'r gwrthbleidiau er mwyn pasio'r mesur

Mae Plaid Cymru wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi taro bargen fel y bydd gwelliant mewn bil yn cyfyngu ar gyflogau penaethiaid cyngor.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi cadarnhau hynny.

Roedd y llywodraeth wedi gwrthod galwad i sefydlu panel annibynnol i reoli cyflogau prif swyddogion.

Ond yn ôl yr AC Rhodri Glyn Thomas, mae'r Gweinidog â chyfrifoldeb dros Lywodraeth leol, Lesley Griffiths, wedi cytuno.

Bygwth

Roedd y gwrthbleidiau wedi bygwth atal y ddeddfwriaeth rhag cael ei phasio os na fyddai cytundeb i sefydlu'r panel.

Am nad oes gan y llywodraeth fwyafrif yn y Cynulliad fe fydden nhw'n colli'r bleidlais.

Dywedodd Mr Thomas ar y Post Cyntaf fore Iau: "Mae'r gweinidog wedi fy sicrhau i y bydd hi yn cyflwyno gwelliant. Dw i yn disgwyl i dderbyn union eiriad y gwelliant.

"Os byddwn i yn hapus bod y gwelliant newydd yn cyflawni'r hyn roeddwn i yn ceisio ei wneud drwy ein gwelliant ni fe fyddwn yn tynnu ein gwelliant yn ôl ac yn cefnogi gwelliant y llywodraeth."

Anghyfreithlon

Yng Nghaerffili, er enghraifft, fe benderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Mawrth fod y modd y rhoddwyd codiad cyflog i'w prif weithredwr yn anghyfreithlon.

Yn y cyfamser, mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol wedi dweud y gallai'r panel gael ei herio yn y llys.

Dywedodd llefarydd: "Telerau ac amodau Cymru a Lloegr sy'n effeithio ar uwchreolwyr.

"Mae eu cyflogau'n cael eu rhewi am bum mlynedd ac yn gyfreithiol mae fframwaith yn eu rheoli, fframwaith y mae cynghorwyr wedi ei benderfynu.

"Os yw rhywun am newid y fframwaith, bydd ymhlygiadau cyfreithiol - a heriau mewn tribiwnlysoedd oherwydd cyflog cyfartal."

Bydd y Mesur Democratiaeth Leol, sy'n anelu at wneud cynghorau'n fwy effeithlon, gerbron y Senedd ar gyfer cymeradwyaeth terfynol ar Fehefin 18.

Rhewi

Roedd Mr Thomas wedi dweud bod prif weithredwyr ac uwchswyddogion ar gyflogau uchel tra bod gweithwyr eraill yn y cynghorau ar gyflogau bach wedi eu rhewi.

"Dyw'r sefyllfa ddim yn dderbyniol," meddai.

"I ni gyd mewn swyddi cyhoeddus, mae ein cyflogau ni yn cael eu penderfynu gan fyrddau annibynnol ac fe ddylai hynny fod yn wir am brif weithredwyr ac uwch swyddogion mewn llywodraeth leol hefyd."

Denu'r gorau

Dadl y cynghorau yw bod angen denu'r goreuon a bod y cyflogau yn adlewyrchu pwysigrwydd a chyfrifoldebau'r swyddi.

Maen nhw hefyd wedi dweud bod yna swyddi sydd yn talu yn well mewn gwasanaethau eraill o fewn y sector gyhoeddus a'u bod wedi mynd ati i arbed arian drwy gyflogi llai o uwchswyddogion.