Galw am weithredu'n gyflym ar fesur gofal

  • 6 Mehefin 2013
Gwenda Thomas AC
Image caption Bydd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor ddydd Iau

Un o brif amcanion Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru yw rhoi mwy o hawliau i bobl sy'n gofalu am berthnasau anabl neu oedrannus.

Ond mae 74 o sefydliadau ar draws Cymru wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, yn galw arni i weithredu'n sydyn i wella'r mynediad sydd ar gael i wasanaethau cymorth arbennig ar gyfer y rhai hynny sydd ddim â chefnogaeth teulu.

Yn ddiweddarach ddydd Iau, bydd y dirprwy weinidog yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor sy'n trafod y mesur newydd yn y Senedd.

Ond mae'r sefydliadau yn galw ar Ms Thomas i sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth ar gael i fwy o bobl, a hynny'n annibynnol.

Cafodd y llythyr ei arwyddo gan gyfuniad o elusennau, grwpiau gwirfoddol sy'n delio gyda phobl ag anableddau, pensiynwyr, gofalwyr a phobl o gefndiroedd difreintiedig.

Un o bryderon y mudiadau yw nad oes digon o fanylion yn y mesur ar hyn o bryd, er eu bod yn derbyn a chroesawu'r ffaith bod y mesur yn eang ei faes yn fwriadol.

'Adennill rheolaeth'

Dywed y mudiadau yn y llythyr: "Rhaid i eiriolaeth annibynnol fod ar gael yn rhad ac am ddim i bob unigolyn hyd yn oed os yw hi'n ymddangos bod ganddyn nhw rywun sy'n gallu siarad ar eu rhan (megis aelod o deulu).

"Mae oedolion a phlant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin ymhlith y mwyaf bregus yn ein cymdeithas, ac mae'n rhaid eu gwarchod.

"Gall eiriolaeth annibynnol gynorthwyo i gydbwyso'r gwahaniaeth grym sy'n gallu digwydd mewn achosion o gam-drin, ac mae'n medru galluogi pobl i adennill peth rheolaeth.

"Mae'r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gyfle na allwn ei wastraffu. Dyna pam yr ydym wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Gwenda Thomas i weithredu ar frys i wella mynediad at eiriolaeth annibynnol fel bod y mesur yma yn rhoi llais go iawn a rheolaeth i bobl yng Nghymru."

Roedd y mudiadau hefyd yn poeni y bydd y mesur yn costio'n ddrud er bod Llywodraeth Cymru wedi gwadu hynny.

Mae'r gwrthbleidiau hefyd wedi codi'r un pryderon.

Costau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n dilyn ei bod yn gwbl angenrheidiol i'r mesur yma fod yn niwtral o safbwynt cost yn y tymor hir.

"Does dim arian ar gael, a fedrwn ni ddim cyfnewid y fframwaith presennol am un sy'n costio mwy.

"Trwy gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod y bydd yna gostau ar y cychwyn ac, o ganlyniad, byddwn yn darparu arian ar gyfer ei gyflwyno ac ar gyfer darparu gwybodaeth.

"Mae costau hyfforddi hefyd wedi'u hystyried ac mae cyllid grant sylweddol eisoes ar gael i awdurdodau lleol a'u partneriaid er mwyn iddynt hyfforddi'r gweithlu.

"Mae hwn yn fesur i'r tymor hir...a bydd y newidiadau'n gwella ansawdd y gofal a'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl Cymru."